Heddlu'n mynd i Wlad Thai

  • Cyhoeddwyd
Kirsty JonesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kirsty Jones ei llofruddio yn 2000.

Bydd dau dditectif o Heddlu Dyfed Powys yn mynd i Wlad Thai dros y Sul fel rhan o'r ymchwiliad i lofruddiaeth menyw ifanc o Bowys.

Cafodd Kirsty Jones, 23 oed o Dredomen ger Aberhonddu, ei lladd mewn gwesty yn y wlad yn 2000.

Roedd hi wedi cael ei threisio a'i thagu.

Yr wythnos nesa bydd ditectifs o Gymru yn adolygu'r sefyllfa gyda'r awdurdodau yn Chiang Mai.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Ian Arundale: "Mae'r awdurdodau yng Ngwlad Thai'n gwybod am ein hymrwymiad ni i ddod o hyd i'r gwir a sicrhau bod y teulu'n cael cyfiawnder.

'Anarferol'

"Ac mae uwchswyddogion yn credu o hyd y bydd canlyniad yr ymchwiliad yn llwyddiannus.

"Mae hwn yn achos anarferol ac rydyn ni o'r farn y gallwn ni helpu Heddlu Gwlad Thai i ddal y troseddwr."

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Steve Wilkins: "Byddwn ni'n trafod pa drywydd sy'n cael ei ddilyn, yn enwedig y dystiolaeth fforensig.

"Yn ein barn ni, y proffil DNA ddylai fod ganolbwynt yr ymchwiliad ac rydyn ni'n fodlon eu helpu."

Dywedodd fod yr atebion yng Ngwlad Thai, yn enwedig Chiang Mai.

Yn Hydref 2010, meddai, ymatebodd yr heddlu i Lythyr Cais oddi wrth Dwrnai Cyffredinol Gwlad Thai.

"Rydyn ni'n dal i aros am ymateb i faterion godon ni yn ymwneud â gwaith gafodd ei gyflawni.

'Ailholi'

"Roedd y gwaith yn cynnwys ailholi tystion sy'n byw yn y Deyrnas Gyfunol a chydweithio a Swyddfa'r Goron yn yr Alban.

"Fe ddaethon ni o hyd i dystion oedd yn byw yng Ngwlad Thai ac un yn byw yn yr India."

Ers blynyddoedd mae Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn cydweithio gyda'r Swyddfa Dramor ac Interpol i geisio datrys yr achos.

Roedd Kirsty Jones ar daith ddwy flynedd o amgylch y byd ac wedi gadael cartref ers rhyw dri mis pan ymosodwyd arni dros nos ar Awst 9-10, 2000.

Cafwyd hyd i'w chorff mewn ystafell yng ngwesty Aree yn Chiang Mai, i'r gogledd o'r brifddinas Bangkok.

Er bod sawl person wedi eu harestio, does neb wedi cael ei gyhuddo.