Teuluoedd yn dod at ei gilydd i dyfu llysiau
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect garddio cymunedol yn Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiant mawr gan dyfu tunnell o lysiau mewn blwyddyn.
Mae gwirfoddolwyr grŵp FlintShare wedi troi darn o dir corslyd a oedd wedi tyfu'n wyllt i bedwar gwely sy'n cynhyrchu llysiau a ffrwythau i dros 20 o deuluoedd.
Mae'r ardd gyntaf, yng Nghilcain, ger Yr Wyddgrug, newydd ddathlu ei benblwydd.
Mae mannau tebyg wedi eu creu yn Ffynnongroyw, Llaneurgain a Phenarlâg.
"Dwi wedi fy syfrdanu gan ddatblygiad y prosiect mewn blwyddyn yn unig," meddai Nikki Giles, un o aelodau cyntaf y grŵp sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
Fe wnaeth pentrefwyr Cilcain glirio cae tair erw er mwyn plannu eu llysiau, sy'n cynnwys tatws, ffa, moron a thomatos yn ogystal â ffrwythau.
Pryd Indiaidd
"Mae pob aelod o'r grŵp wedi bod yn hapus iawn gyda'r cynnyrch, yn enwedig yr amrywiaeth a'r llysiau ffres, hyfryd," meddai.
I ddathlu penblwydd cyntaf y prosiect trefnwyd pryd o fwyd Indiaidd gan ddefnyddio eu cynnyrch eu hunain.
Mae aelodau'r grŵp wedi cael caniatad i ddefnyddio'r tir gan berchnogion tir lleol fel rhan o brosiect sy'n debyg i brosiectau amaeth wedi ei gefnogi gan y gymuned.
Mae'r ardd yn Ffynnongroyw ar dri chwarter erw tu ôl i eglwys y pentref.
Dywedir bod y tir yn gorslyd ond mae gwirfoddolwyr wedi ei wneud yn "gynhyrchiol ac yn barod am amaethu pellach".
Mae'r ardd ym Mhenarlâg wedi ei leoli mewn perllan yn agos i Siop Fferm Penarlâg.
Mae grŵp Cilcain yn cynnal cyfarfod agored i bob aelod o'r prosiectau garddio ddydd Sadwrn Chwefror 18.
Ac fe fydd cyfarfod agored hefyd yn Neuadd y Dref, Yr Wyddgrug ar Fawrth 3 rhwng 2 a 3.30pm i'r rhai sydd am ddarganfod mwy am y prosiect.