Ed Miliband yn canmol arweinydd Llafur Cymru Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi canmol y blaid yng Nghymru am "arddangos dewis amgen" i bolisïau llywodraeth clymblaid San Steffan.
Roedd Mr Miliband yn annerch cynhadledd Llafur Cymru yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd mai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, "ydi'r dyn gorau i amddiffyn Cymru".
Roedd Mr Miliband yn llawn canmoliaeth o bolisïau Mr Jones, er bod y gwrthbleidiau yn y Cynulliad yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â gwneud digon ers yr etholiad fis Mai y llynedd.
Fe wnaeth Mr Miliband ailadrodd yr alwad am "gyfalafiaeth gyfrifol" gan ychwanegu y dylai'r economi fod ar gael i bawb.
Wrth ymosod ar y bonws i'r bancwyr dywedodd nad "cenfigen wleidyddol" yw hyn ond ei fod yn ymwneud â "diwylliant o gyfrifoldeb".
Cam at ddychwelyd i Downing Street
Aeth ymlaen i ddweud bod cronfa Llywodraeth Cymru yn mynd i greu 4,000 o swyddi i bobl ifanc a bod y llywodraeth ym Mae Caerdydd yn bwriadu cyflogi 500 o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu am fod Mr Jones, "yn deall pwysigrwydd taclo troseddau a chael yr heddlu ar y strydoedd".
Fe wnaeth hefyd ganmol Mr Jones am "wneud y penderfyniad cywir" o ran arbed myfyrwyr Cymru o ffioedd dysgu sylweddol.
Er gwaetha' beirniadaeth y gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd, dywedodd Mr Miliband bod canlyniad Llafur yng Nghymru yn etholiad y cynulliad y llynedd fel y cam cywir tuag at ddychwelyd i Downing Street.
Llafur yw'r blaid fwya' yn y Cynulliad Cenedlaethol, er eu bod un sedd yn brin o fwyafrif.
"Mae angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan i fod yn bartner i'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru," meddai Mr Miliband.
Fe wnaeth hefyd ymosod ar Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, a oedd meddai, "yn brwydro dros ei hetholaeth yn Sir Buckingham ond nid am y rhai sy'n ddi-waith yng Nghaerdydd".
Dywedodd bod datganoli wedi gweithio er budd y DU a bod "gan bawb ddyletswydd i frwydro dros y Deyrnas Unedig".
Daw'r sylw wrth i Blaid Genedlaethol Yr Alban baratoi i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2012