Llafur: 'Dewis amgen i doriadau' y Glymblaid yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones: "Llafur yw plaid pobl Cymru"

Y Blaid Lafur sy'n sefyll dros fuddiannau pobl Cymru, yn ôl Carwyn Jones wrth i'w blaid ymgynnull ar gyfer eu cynhadledd wanwyn yng Nghaerdydd.

Bydd Prif Weinidog Cymru yn dweud bod y Blaid Lafur yng Nghymru yn dangos bod yna "ddewis amgen i doriadau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol".

Fe fydd y blaid yn edrych ymlaen hefyd at yr etholiadau lleol ym mis Mai ac ymgais gan y blaid i ddenu cefnogwyr newydd, yn benodol, rhai o gefnogwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae Llafur Cymru mewn llywodraeth yn dangos bod yna ddewis amgen i doriadau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol," meddai Mr Jones.

"Rydym wedi treulio'r 10 mis diwethaf yn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru, buddsoddi yn yr economi ac mewn swyddi, creu system addysg o'r radd flaenaf ar gyfer ein plant a gwarchod y gwasanaeth iechyd rhag preifateiddio'r Ceidwadwyr."

'Beiddgar ac arloesol'

Er mwyn gwrthdroi'r colledion yn yr etholiad lleol diwethaf mae'r blaid yn gobeithio recriwtio miloedd o gefnogwyr cofrestredig, pobl sy'n gefnogol i'r blaid ond sydd ddim eisiau bod yn aelodau llawn.

Syniad sydd, yn ôl Mr Jones, yn un "beiddgar ac arloesol" a fydd yn creu, nid yn unig "peiriant gwleidyddol, ond symudiad".

Mae'r blaid hefyd yn gobeithio estyn "llaw gyfeillgar" i rai o gefnogwyr Plaid Cymru, yn enwedig y rhai sy'n erbyn annibyniaeth i Gymru.

Yn ôl llefarydd ar ran Llafur Cymru "mae annibyniaeth yn farn leiafrifol, hyd yn oed o fewn Plaid Cymru".

"Beth mae pobl eisiau yw plaid fydd yn sefyll i fyny dros Gymru a phobl Cymru.

"Llafur yw plaid pobl Cymru."

Etholiadau lleol

Dyma'r cyntaf o'r cynadleddau gwleidyddol eleni.

Fe fydd arweinwyr y Blaid Lafur yn gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn hwb dechreuol i'w hymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol fis Mai.

Pedair blynedd yn ôl, fe gafodd y Blaid Lafur y canlyniad gwaethaf mewn etholiadau lleol ers 40 mlynedd, gan golli grym yn eu cadarnleoedd fel Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Merthyr Tudful.

Ond eu gobaith yw y bydden nhw'n gallu adeiladu ar eu llwyddiant yn etholiadau'r Cynulliad a chipio rhai o'r cynghorau a gollwyd yn 2008.

Fe fydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn stadiwm SWALEC Caerdydd dros y penwythnos.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol