Clod i wasanaeth addysg Cyngor Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion mewn ysgolFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Sir Ddinbych fod yr adroddiad yn hwb mawr i hyder

Mae gwasanaethau addysg yn Sir Ddinbych a gafodd eu beirniadu pum mlynedd yn ôl gan y corff sy'n arolygu ysgolion yng Nghymru wedi cael canmoliaeth mewn adroddiad newydd.

Yn ôl adroddiad Estyn yn dilyn yr archwiliad yn 2007 roedd gwasanaethau addysg y sir yn "anfoddhaol".

Ond yn dilyn archwiliad o wasanaethau addysg yn Ionawr a Chwefror eleni, mae'r sir yn sgorio 'ardderchog' am arweinyddiaeth a 'da' am bob agwedd arall o'r adroddiad, efo rhagolygon 'da' am welliant pellach.

Dywed Cyngor Sir Ddinbych fod yr adroddiad yn hwb mawr i hyder a cham sylweddol ymlaen tuag at ddod yn wasanaeth ardderchog.

Gwella'n sylweddol

Mae adroddiad yr archwiliad diweddaraf yma'n amlygu llawer o gyflawniadau gan gynnwys:

  • Mae perfformiad wedi gwella'n gyflymach nag ar draws Cymru yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 4; roedd Cyfnod Allweddol 3 wedi cynnal yr un gwelliant â gweddill Cymru tan 2010, er ei fod wedi gwella'n arafach yn 2011.

  • Mae nifer ysgolion Sir Ddinbych sy'n gorfod cael sylw dilynol yn dilyn archwiliad ymysg yr isaf yng Nghymru.

  • Mae presenoldeb yn dda ac mae wedi gwella.

  • Ychydig iawn o waharddiadau parhaol sydd yna ac mae nifer y dyddiau a gollwyd oherwydd gwaharddiad ymysg y lleiaf yng Nghymru.

  • Mae canran y dysgwyr Blwyddyn 11 sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth wedi lleihau'n gyson yn y blynyddoedd diwethaf ac mae'n well na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru

  • Mae cefnogaeth i wella ysgolion wedi gwella'n sylweddol ers yr archwiliad diwethaf.

  • Mae'r awdurdod yn addysgu ychydig dros hanner y dysgwyr â datganiadau mewn ysgolion prif lif, gyda'r rhan fwyaf o'r disgyblion hyn yn mynychu dosbarthiadau prif lif efo'u cyfoedion.

  • Bydd swyddogion yn cynorthwyo ysgolion yn dda gyda datblygu polisïau priodol i daclo bwlio a chodi ymwybyddiaeth o bob ffurf ar seiberfwlio

  • Mae'r awdurdod ag ystod o gymorth priodol ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed.

'Diwrnod balch'

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg: "Mae'r adroddiad hwn yn bositif eithriadol ac yn adlewyrchu'r ymrwymiad sydd yna yn Sir Ddinbych i wella safonau mewn addysg.

"Roedd yna gefnogaeth drawsbleidiol eang i wella addysg ac fe gafwyd ymdrech fawr gan ein staff, ysgolion, cynghorwyr, cyrff llywodraethol a rhieni i droi pethau o gwmpas.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Sir Ddinbych: "Mae hwn yn ddiwrnod balch iawn i Sir Ddinbych. Roedd yna dderbyniad eang pan gawson ni ein harchwilio yn 2007 fod angen i ni gyflwyno rhai gwelliannau mawr i'n gwasanaethau addysg.

"O'r dydd hwnnw fe wnaeth y Cyngor wella addysg yn brif flaenoriaeth ac fe roddwyd llawer o adnoddau i mewn i droi'r gwasanaeth o gwmpas".

"Rydyn ni wedi cyflwyno ffyrdd cadarn o weithio, rydyn ni wedi craffu ein gwaith fel nas gwelwyd erioed o'r blaen, ond yn fwyaf pwysig rydyn ni wedi gwella'r cyfathrebu a'r ymgynghori â'n hysgolion.

"Rydyn ni i gyd ag un prif nod, i wella safonau addysg yn Sir Ddinbych. Credwn ein bod wedi gwneud hynny yn null Sir Ddinbych ac rydyn ni'n eithriadol falch o'n cyflawniadau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol