Elusen yn honni bod marchnata alcohol yn cyrraedd plant 10 oed
- Cyhoeddwyd
Mae plant yn fwy tebygol o adnabod alcohol o ganlyniad i hysbysebu na bwydydd poblogaidd, yn ôl Alcohol Concern Cymru.
Mae'r elusen wedi holi dros 400 o blant ifanc ac maen nhw'n honni bod marchnata diodydd alcohol yn cyrraedd plant mor ifanc â 10 oed.
Cred yr elusen yw bod yr hysbysebu yn mynd i wneud hi'n fwy tebygol iddyn nhw ddechrau yfed.
Ond mae'r diwydiant wedi gwrthod yr honiad gan fynnu nad oes 'na brawf bod cysylltiad rhwng y ddau.
Fe wnaeth yr arolwg holi plant 10-11 oed a gafodd weld enwau a logo cwmnïau a chynnyrch alcohol a chynnyrch di-alcohol.
Cafodd y plant weld lluniau o hysbysebion teledu yn ogystal.
Fe ofynnwyd iddyn nhw ddweud a oedd y cynnyrch yn fwyd, diod feddal neu alcohol.
Yn ôl y canlyniadau:
Fe wnaeth 79% adnabod Carlsberg fel alcohol tra bod 74% wedi dweud yn gywir mai bwyd oedd hufen iâ Ben & Jerry's ond dim ond 41% oedd yn gwybod bod cacennau Mr Kipling yn fwyd;
Roedd 95% o'r plant wedi adnabod logo Fosters a Stella Artois fel alcohol;
Roedd cymeriadau chwedlonol hysbyseb teledu Fosters yn fwy adnabyddus na'r cymeriadau mewn hysbyseb siocled Cadbury.
"Mae'r diwydiant diod yn taeru'n gryf nad ydi'r hysbysebion wedi eu hanelu at blant," meddai Mark Leyshon o Alcohol Concern Cymru.
"Er hynny, mae'r arolwg yma yn cynnig mwy o dystiolaeth bod negeseuon marchnata alcohol yn cyrraedd y plant ifanc, flynyddoedd lawer cyn eu bod yn gallu prynu alcohol yn gyfreithlon.
"Mae ymchwil yn dangos bod plant sy'n agored i hysbysebion a hyrwyddo alcohol yn fwy tebygol o ddechrau defnyddio alcohol, o fod â disgwyliadau positif am alcohol ac i yfed mwy os ydyn nhw eisoes yn defnyddio alcohol."
Gorfodaeth lem
Galwodd Mr Leyshon ar i fwy o reolau fod yn eu lle er mwyn sicrhau mai dim ond cyrraedd oedolion y mae'r hysbysebion.
Ond dywedodd Henry Ashworth, Prif Weithredwr Portman Group, y corff sydd â chyfrifoldeb am gynhyrchwyr alcohol, nad oedd hynny yn angenrheidiol.
"Mae'r honiad bod cael ymwybyddiaeth o gynnyrch alcohol yn achosi mwy o blant i yfed yn gwrthddweud yn uniongyrchol yr ystadegau diweddara sy'n dangos bod 'na dueddiad cyson bod llai o blant yn trio alcohol," meddai.
"Mae gan y DU reolau llym i atal marchnata alcohol i blant neu werthu alcohol i blant, ac mae'r rheolau yma yn cael eu gorfodi yn llym."
Fe wnaeth Campaign for Real Ale (Camra) yng Nghymru feirniadu'r adroddiad hefyd.
"Dwi'n gwrthod hyn yn llwyr," meddai'r llefarydd James Daley.
"Ydi hi'n beth drwg eu bod yn adnabod alcohol?
"Ar hyn o bryd, mae'n rhaid bod yn 18 oed i brynu alcohol - faint mwy o reolau sydd eu hangen?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011