Darpariaeth radio digidol ar gael

  • Cyhoeddwyd
Tudur OwenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglen Tudur Owen bob dydd Sadwrn

O Dachwedd ymlaen bydd darpariaeth radio digidol newydd ar gael yn y gogledd-ddwyrain ac ardaloedd Caer a Lerpwl.

Cyhoeddodd MuxCo eu cynlluniau ddydd Llun.

Oherwydd trosglwyddyddion Moel-y-parc, Rhos Wrecsam a St John's Beacon bydd tua 1.8 miliwn yn gallu clywed gorsafoedd fel Radio Cymru, Radio Wales a Real Radio yn ddigidol.

"Mae hyn wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl," meddai'r rheolwr gyfarwyddwr, Gregory Watson.

"Pan wnaethpwyd cais am drwydded doedd neb yn disgwyl argyfwng ariannol bydeang, newid perchnogaeth gorsafoedd radio na thrafodaethau hir rhwng Ofcom, y llywodraeth, y BBC a'r grwpiau radio.

Cyffrous

Dywedodd fod y datblygiad yn gyffrous.

"Bydd hoff orsafoedd a dewisiadau newydd ar gael i bobl yr ardal.

"Ar hyn o bryd mae hanner gwrandawyr gwledydd Prydain yn gwrando ar radio digidol bob wythnos ac rydym yn falch y bydd pobl y cylch yn gallu gwneud hyn yn lleol."

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydyn ni yn croesawu'r cyhoeddiad hwn.

"Mae'n golygu y bydd cynulleidfaoedd yn y gogledd ddwyrain ... yn gallu gwrando ar orsafoedd cenedlaethol BBC Cymru, Radio Cymru a Radio Wales, yn ddigidol."