Cyngor a hyfforddiant i 1,200 o weithwyr niwclear wrth i waith ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Yr WylfaFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Wylfa orffen cynhyrchu trydan yn 2014

Caiff gweithwyr y diwydiant niwclear gyngor gyrfaol ac ail-hyfforddi fel rhan o gynllun £4 miliwn ar gyfer gogledd orllewin Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cymorth ar gael ar gyfer dros 1,200 o weithwyr Wylfa a Thrawsfynydd.

Fe ddaw'r cyhoeddiad ar ôl i ddau gwmni benderfynu na fyddan nhw'n parhau a'u cynlluniau i adeiladu gorsaf newydd ar safle'r Wylfa.

Mae disgwyl i'r gwaith o gynhyrchu trydan ddod i ben yn Yr Wylfa yn 2014.

Mae'r atomfa yn Nhrawsfynydd yn cael ei ddadgomisiynu ar hyn o bryd.

Ym mis Mawrth fe wnaeth cwmnïau E.On ac RWE npower, oedd wedi sefydlu cwmni Horizon, ddweud na fyddan nhw'n parhau i godi atomfa newydd - Wylfa B - a fyddai wedi dechrau cynhyrchu trydan o 2025 ar ôl adolygiad.

Yn ôl y cwmnïau, cynnydd mewn costau ar gyfer prosiectau a chynnydd mewn costau dadgomisiynu yn Yr Almaen, oedd wrth wraidd eu penderfyniadau.

Lleihau'r ergyd

Mae'r llywodraeth yno wedi penderfynu peidio parhau gyda chynlluniau niwclear ar ôl trychineb Fukushima.

Mae 'na adroddiadau bod gan gwmni Rosatom o Rwsia ddiddordeb i godi adweithydd newydd ar safle'r Wylfa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bydd prosiect Llunio'r Dyfodol yn cynorthwyo i leihau effaith cau'r atomfeydd.

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan £2.3 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop a chyllid gan brosiect Môn a Menai drwy Lywodraeth Cymru, £1.2 miliwn gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a chyllid ychwanegol gan Gyngor Sir Gwynedd a Chyngor Ynys Môn.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog Busnes Cymru bod "helpu gweithlu gogledd orllewin Cymru i baratoi ar gyfer y dyfodol, cymryd mantais o gyfleoedd newydd a sicrhau cyflogaeth amgen cynaliadwy yn hanfodol i ateb gofynion yr heriau sy'n codi o newid strwythurol yn yr economi ranbarthol".

"Mae ein defnydd o'r Undeb Ewropeaidd a chyllid arall yn dangos sut y gallwn gefnogi ein polisïau cymesur gydag adnoddau i gefnogi ein huchelgais i ddiogelu gweithlu hynod fedrus sy'n gallu addasu ar gyfer yr economi fodern."

Bydd y cynllun yn cynnig mentora un-am-un ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau gweithredu a datblygu unigol fydd yn ateb anghenion rhanbarthol a bylchau mewn sgiliau.

Amrywiaeth economaidd

Bydd yn cynnig rhaglen ailhyfforddi a rhoi sgiliau newydd i'r gweithlu, yn ogystal â helpu unigolion i gael swyddi neu ddechrau eu busnesau eu hunain o fewn y rhanbarth.

Dywedodd Judy Craske, Cyfarwyddwr Prosiect, Llunio'r Dyfodol, ei fod yn esiampl o'r modd y gall y sector breifat a chyhoeddus gydweithio i fynd i'r afael â newidiadau mewn cyflogaeth a rhoi hwb i amrywiaeth economïau rhanbarthol.

"Mewn cyfnod o brinder mewn sgiliau technegol allweddol ac arbenigedd peirianneg, mae Gogledd orllewin Cymru yn cynnig cyfuniad unigryw o sgiliau prin y gall cyflogwyr gymryd mantais ohonyn nhw.

"Rydym wrth ein boddau yn lansio rhaglen sy'n cyfuno adfywio economaidd gyda rheoli talent macro-economaidd, rhaglen fydd yn gwarchod sgiliau gweithwyr allweddol yn y rhanbarth."

Fe fydd Adweithydd 2 yn Yr Wylfa, a ddechreuodd weithredu yn 1971, yn gorffen cynhyrchu trydan ar Ebrill 30.

Fe fydd Adweithydd 1 yn parhau i gynhyrchu trydan tan 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol