Etholiad: Effaith toriadau ar yr awdurdodau

  • Cyhoeddwyd
Tîm Prydain Fawr yn hyfforddi yng NghasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Prydain Fawr yn hyfforddi yng Nghasnewydd

Yn yr olaf o saith erthygl am rai o awdurdodau allweddol yr etholiadau lleol ar Fai 3, Jordan Davies sy'n bwrw golwg ar fater sy'n bwysig i etholwyr y de ddwyrain.

Os ewch chi i ganolfan Velodrome Casnewydd fe welwch chi athletwyr elit yn hyfforddi ochr yn ochr ag amaturiaid a hynny mewn canolfan sy'n cael ei gynnal gan y cyngor.

Ond dyw darpariaeth o'r fath ddim yn rhywbeth y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei ddarparu ac mae nifer o gynghorau yn cau gwasanaethau hamdden, neu fel yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, yn eu trosglwyddo i bartneriaeth preifat-cyhoeddus.

Gan nad ydi hamdden yn wasanaeth statudol, mae'n fwy tebygol o wynebu toriadau.

Dywedodd Steve Ward, rheolwr hamdden a chwaraeon Cyngor Dinas Casnewydd, bod o'n benderfyniad anodd.

"Mae cynghorau yn gorfod ystyried a all cwmnïau preifat neu ymddiriedolwyr gynnal cyfleusterau o'r fath, ac mae'n benderfyniad anodd i gynghorwyr a gwleidyddion gan fod pawb yn gwylio," meddai.

Daw tua 80% o gyllid y cyngor gan Lywodraeth Cymru ac mae 20% yn dod o'r treth cyngor.

Cyd-weithio

Ar gyfartaledd mae'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn 0.2% o gynnydd mewn cyllid eleni o'i gymharu â'r llynedd.

Caerdydd dderbyniodd y cynnydd mwya', 1.5% gyda Sir Fynwy yn y gostyngiad mwya', -1.8%.

Ond, mae'r corff sy'n cynrychioli'r awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru, yn dweud os ydi rhywun yn ystyried chwyddiant mae'r cyllid cyffredinol wedi ei gwtogi -4.3%.

Ond mewn cyfnod economaidd anodd mae'n rhaid i gynghorau Gynnal gwasanaethau allweddol fel atgyweirio ysgolion, tai newydd a gwaith cynnal a chadw ffyrdd.

Mae'r benthyciad ar gyfer y math yma o brosiectau wedi cynyddu 80% yn y flwyddyn ddiwethaf, hyd at £256 miliwn.

I ddelio gyda'r pwysau ar gyllidebau mae awdurdodau lleol wedi gorfod dysgu cyd-weithio.

Mae Cyngor Torfaen yn rhannu gwasanaethau addysg gyda chynghorau eraill.

Mae'r gwaith o adnewyddu Ysgol Gyfun Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl yn cael ei ariannu gan nifer o gynghorau sy'n anfon plant yno, fel Casnewydd a Blaenau Gwent.

Un o'r gwasanaethau mwya' i gael eu rhannu yw Rhaglen Llesgedd Gwent, menter ar y cyd rhwng pum cyngor yn hen ardal Gwent a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan sydd wedi ei gynllunio i gynorthwyo pobl oedrannus i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Cyllidebau

Dywedodd Hugh Coombs, Athro Cyfrifeg ym Mhrifysgol Morgannwg, y gallai'r esiampl yma gael ei fabwysiadau mewn llefydd eraill.

"Mae 'na drafodaeth am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng nghanolbarth Cymru," meddai.

"Yn ddiweddar fe wnaeth cynghorau Caerffili a Merthyr Tudful gyhoeddi y byddan nhw'n cydweithio yn agosach er mwyn gwneud arbedion."

Mae pob cyngor yng Nghymru yn gyfrifol am tua 500 o wasanaethau, rhai na fyddwch chi'n ymwybodol ohonyn nhw tan iddyn nhw ddiflannu.

Ond gyda chyllidebau o dan straeon, mae adnoddau fel yr hyn sydd ar gael yn y Velodrome yng Nghasnewydd yn adnoddau moethus ond yn brin.