MI6: 'Dim lladd anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Mae crwner cwest i farwolaeth y swyddog gyda MI6, Gareth Williams, wedi dweud na all ystyried rheithfarn o ladd anghyfreithlon.
Cyn cyhoeddi canlyniad y cwest dywedodd Dr Fiona Wilcox mai rheithfarn naratif oedd y fwyaf tebygol gan na fyddai rheithfarn agored yn gwneud cyfiawnder gyda'r achos.
Cafwyd hyd i gorff Gareth Williams o Ynys Môn mewn bag chwaraeon yn y bath yn ei fflat yn Llundain yn Awst 2010.
Clywodd Llys y Crwner yn Westminster nad oedd arbenigwyr yn gallu cytuno ar union achos ei farwolaeth gan fod thri phatholegydd a wnaeth brofion post mortem ar y corff yn methu cydsynio.
Ond roedden nhw'n dweud mai gwenwyno neu fygu oedd yr achosion marwolaeth mwyaf tebygol.
Mae disgwyl i'r crwner gyhoeddi ei chanlyniad tua 11:30am ddydd Mercher.
Adolygu
Cafodd ei ddatgelu ddydd Mawrth mai dim ond yr wythnos hon y cafodd yr heddlu wybod bod MI6 wedi celu gwybodaeth am go' bach cyfrifiadur a bag North Face - un yn debyg i'r un yr oedd ei gorff ynddo - oedd yn swyddfa Gareth Williams.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jackie Sebire, sy'n arwain yr ymchwiliad, fod y gwasanaethau cudd hefyd wedi chwilio drwy'r "cyfryngau cyfrifiadurol" heb ddweud wrth yr heddlu.
Wrth gael ei holi am yr archwiliad o swyddfa MI6 Mr Williams ar Awst 26, 2010, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Colin Hall o SO15, uned gwrth derfysgaeth Heddlu'r Met, nad oedd wedi cadw'r ffyn cof am iddo gael gwybod eu bod yn cynnwys gwybodaeth "sensitif".
Dywedodd nad oedd wedi cadw'r bag North Face du y daethpwyd o hyd iddo o dan ddesg yr ysbïwr "am fy mod wedi cael gwybod nad oedd unrhyw beth yn ymwneud â marwolaeth Gareth ynddo."
"Cafodd y bag ei archwilio ond chafodd dim ei gadw ... roedd yn cynnwys eitemau gwaith a phethau personol."
Mae Ms Sebire wedi dweud y bydd Heddlu Llundain yn adolygu'r ymchwiliad yn sgil y cwest, gan awgrymu y gallai'r sylw droi at gydweithwyr Mr Williams.
Dywedodd teulu Mr Williams wrth y cwest eu bod yn credu ei fod wedi cael ei ladd gan asiant oedd yn "arbenigo yng nghelfyddyd dywyll y gwasanaethau cudd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012