Llafur yn cryfhau yng Nghastell-nedd

  • Cyhoeddwyd
Llafur CymruFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Mae Llafur wedi cipio rheolaeth dinas Abertawe.

Roedd y ddinas yn arfer cael ei rhedeg gan glymblaid dan arweniad y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cryfhaodd pleidlais Llafur yng Nghastell-nedd Port Talbot wrth ddal eu gafael ar y cyngor yno.

Enillodd Llafur 52 o'r 64 o seddau yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.

Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu tair sedd ac fe gollodd Plaid Cymru dair o'r 11 oedd ganddyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wrth y BBC "ei bod yn edrych yn ddu iawn ymhob man i ni".

Canlyniad Castell-nedd Port Talbot

Llafur - 52

Plaid Cymru - 8

Annibynnol - 3

Democratiaid Cymdeithasol 1

Abertawe

Mae Llafur wedi ennill rheolaeth o'r cyngor a'r canlyniad yn ergyd i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fe wnaeth Llafur gipio 49 ward o'i gymharu a'u cyfanswm blaenorol o 26.

Llafur - 49

Democratiaid Rhyddfrydol - 12

Ceidwadwyr - 4

Sir Benfro

Cynghorwyr Annibynnol enillodd y nifer fwyaf o seddi yn Sir Benfro wedi i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi brynhawn Gwener:

  • Annibynnol- 33

  • Llafur - 9

  • Plaid Cymru - 5

  • Ceidwadwyr - 3

  • Democratiaid Rhyddfrydol -1

  • Gweddill- 9

Caerfyrddin

Cryfhaodd pleidlais Llafur yn Sir Gaerfyrddin wrth iddyn nhw gynyddu nifer eu seddi o 10 yn 2008 i 23.

Roedd clymblaid rhwng y Blaid Lafur a chynghorwyr Annibynnol yn 2008 yn rheoli'r cyngor sir a bydd trafodaethau'n dechrau i benderfynu pwy fydd yn rheoli'r awdurdod lleol.

Dywedodd Peter Hughes-Griffiths ar ran Plaid Cymru eu bod am drafod gyda'r cynghorwyr Annibynnol a Llafur i geisio trefnu clymblaid fyddai'n "adlewyrchu dymuniadau'r etholwyr".

Cipiodd cynghorwyr Annibynnol 22 sedd, chwech yn llai na phedair blynedd yn ôl.

Er hynny, Plaid Cymru sydd â'r nifer fwyaf o seddi, 28:

  • Plaid Cymru - 28

  • Cynghorwyr Annibynnol - 22

  • Llafur - 23

  • Eraill - 1

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol