350 o gydweithfeydd bwyd cymunedol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Allotment in WrexhamFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae lotment cymunedol yn cynhyrchu bwyd i gydweithfeydd yn Wrecsam

Mae nifer y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol sy'n cael eu rheoli gan wirfoddolwyr ac sy'n gwerthu llysiau a ffrwythau wedi codi i fwy na 350.

Mae adroddiad gan grŵp ambarél sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn honni eu bod wedi helpu sefydlu 280 o Gydweithfeydd Bwyd Cymunedol sy'n cael eu rhedeg gan 2,700 gwirfoddolwr gan gyflenwi ffrwythau a llysiau i 10,000 o gwsmeriaid erbyn 2011.

Dywed yr Uned Adfywio Gwledig (RRU) yn Wrecsam fod mwy o grwpiau tebyg wedi'u sefydlu ers hynny.

Mae o leiaf saith o Gydweithfeydd Bwyd Cymunedol yn ardal Wrecsam yn cael eu cyflenwi gan ffermwr lleol.

'Gweithredu cymunedol'

Ond ni wyddir gwir rif cydweithfeydd o'r fath oherwydd y gallan nhw gael eu sefydlu a gweithredu'n annibynnol.

Mae grŵp Roots and Fruits wedi bod yn gweithredu yn ystâd tai Parc Caia yn Wrecsam ers dwy flynedd.

Mae'r grŵp yn cael ei gyflenwi gan ffermwr lleol a thîm o 15 garddwr gwirfoddol o'r ystâd sy'n tyfu bwyd ar gyfer meithrinfa leol, canolfan ddydd ar gyfer yr henoed a chaffi.

Dywedodd cynghorwr gweithwyr cymorth gwirfoddol Partneriaeth Parc Caia, Caroline Harry, fod y cynlluniau cydweithredol a garddio yn helpu uno'r gymdeithas leol.

"Mae'r cynllun yn dangos gweithredu cymunedol ac nad oes angen i bobl wario ffortiwn i fwyta'n iach," meddai.

Dechreuodd y rhaglen Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol yn 2004, yr un flwyddyn i adroddiad gan Lywodraeth Cymru , dolen allanol ddatgan mai dim ond 41% o bobl Cymru oedd yn bwyta'r pum ffrwyth neu lysieuyn sy'n cael ei argymell yn ddyddiol.

Mae'r RRU hefyd yn honni bod rhai cydweithfeydd bwyd cymunedol yn gwerthu wyau a chig i fwy na 400 o gyflenwir yng Nghymru.

'Cefnogi cynhyrchwyr lleol'

Mae Shirley James yn gydlynydd gwirfoddol grŵp gafodd ei sefydlu ym mis Mawrth eleni gan drigolion Plas Hyfryd, fflatiau â chyfleusterau gofal estynedig sy'n cael eu gweithredu gan Gymdeithas Tai Unedig Cymru yng Nghaerffili.

Dywedodd Ms James fod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus gan gyflenwi 25-30 o drigolion y fflatiau.

Ychwanegodd fod trigolion y fflatiau'n cyfarfod i gael coffi a sgwrs pan fyddan nhw'n casglu eu ffrwythau a llysiau.

Cafodd Cydweithfa Llysiau Bangor eu hail lansio yng Nghanolfan Hamdden Maes Glas ym mis Ebrill.

Cafodd y gydweithfa ei sefydlu'n wreiddiol gan Dr David Shaw, cyfarwyddwr ymchwil yn Fferm Ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor yn Abergwyngregyn.

Erbyn hyn gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y gydweithfa , gan gynnwys Jamie Stroud, myfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a Stephanie Johnson, sy'n gweithio i Action on Hearing Loss Cymru ym Mangor.

"Mae'n bwysig iawn i gefnogi cynhyrchwyr lleol, lleihau eich ôl troed carbon a chreu cymunedau iach, cynaliadwy," meddai Ms Johnson.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol