Llywodraeth Cymru yn gwrthod galwad am fwy o ACau
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes 'na awch am fwy o wleidyddion ar ôl i Lywydd y Cynulliad awgrymu cynyddu nifer yr aelodau.
Mewn cyfweliad i nodi ei blwyddyn gyntaf yn y swydd fe ddywedodd Rosemary Butler ei bod o blaid cael 80 o ACau yn hytrach na'r 60 presennol.
Dywedodd nad oedd 'na alw gan y cyhoedd am fwy o wleidyddion, yn enwedig pan mae nifer yr ASau yn cael eu cwtogi.
Ond dywedodd bod gan rai cynghorau fwy o aelodau na'r Cynulliad.
Yn y cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd ei bod wedi dweud erioed nad oes 'na ddigon o aelodau cynulliad.
"Dwi ddim yn gweld awch o'r tu allan, yn wir mae nifer y rhai yn San Steffan yn cael eu cwtogi ac rydym yn colli ASau yng Nghymru.
"Mae'n anodd, ond mae'n rhaid gwneud synnwyr o'r system sy'n bodoli er mwyn caniatáu i aelodau ddelio gyda'r busnes sydd gennym ni i'w wneud gyda'r nifer sydd gennym ni."
Pan ofynnwyd tua faint o ACau yr hoffai weld, dywedodd "o bosib 80".
Comisiwn
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedden nhw'n credu bod awch ymhlith y cyhoedd am fwy o wleidyddion ar hyn o bryd.
Mae 'na 60 o aelodau yn cael eu hethol, 40 o dan y system cynta' heibio'r postyn a 20 o'r pum rhanbarth.
Dyma ydi'r drefn wedi bod ers yr etholiad cyntaf yn 1999.
Yn 2004 fe wnaeth Comisiwn Richard ar ddatganoli argymell ychwanegu 20 arall.
Mae 'na ofod yn y siambr i ychwanegu mwy o seddi ar gyfer aelodau.
Mae sylwadau'r Llywydd yn peryglu siomi gwrthwynebwyr i gynyddu pŵer deddfu'r cynulliad oedd wedi dweud y byddai refferendwm 2011 ar hyn yn arwain y ffordd at fwy o ACau.
Ond dywedodd Mrs Butler nad ydy'r ymgyrchwyr Na "yn credu mewn datganoli o gwbl, boed efo 10 o aelodau neu 110".
"Os ydach chi'n tynnu nifer o aelodau'r llywodraeth, mae'n cwtogi nifer yr aelodau sydd ar gael i wneud y gwaith yn sylweddol.
"Dwi ddim yn dweud nad ydan ni'n llwyddo, oherwydd ein bod ac yn gwneud y gwaith yn dda.
"Ond fe wnaethoch chi ofyn i mi a ddylai mwy o aelodau fod a dwi'n meddwl y dylai mwy fod.
"Mae gan nifer o gynghorau Cymru fwy o gynghorwyr na sydd gennym ni o aelodau a llawer llai o gyfrifoldebau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012