Hwb newydd i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn gobeithio cynyddu'r pwysau ar Lywodraeth San Steffan i ymestyn cynllun £1 biliwn i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe.
Fe gytunwyd y llynedd i drydaneiddio'r cledrau rhwng Caerdydd a Llundain.
Ond mae grŵp o wleidyddion yn ne orllewin Cymru yn annog busnesau, cynghorau ac academyddion i gydweithio gyda nhw i bwyso am ymestyn y cynllun i Abertawe.
Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth eu bod yn ystyried achos busnes ar gyfer trydaneiddio yn ne Cymru.
Pan gyhoeddwyd y cynlluniau ym mis Mawrth 2011 roedd 'na siom yn ardal Abertawe nad oedd y cynllun ymestyn ymhellach na Chaerdydd.
Ar y pryd fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth nad oedd 'na achos busnes digonol ar gyfer hyn.
Cyflymach
Dydd Gwener fe fydd 'na gyfarfod yn Abertawe i drafod y mater.
Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd pobl yn dod at ei gilydd yn unedig i wella'r cysylltiad rheilffordd yn ne orllewin Cymru.
Ymhlith y rhai sy'n mynychu'r cyfarfod y mae ASau, ACau, Virgin Media, Virgin Atlantic, Admiral, Amazon, Prifysgol Abertawe, grwpiau busnes a'r Post Brenhinol.
Yn ôl y rhai sy'n gefnogol i'r cynllun fe fyddai'n arwain at wasanaeth cyflymach a mwy cyson.
Dywedodd AS Llafur Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, sy'n arwain yr ymgyrch bod 'na boblogaeth sylweddol iawn o ystyried ardaloedd Abertawe, Llanelli, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr.
"Fe fyddai gwasanaeth rheilffordd mwy cyson yn hwb i dyfiant a buddsoddiad," meddai.
Fe fydd y farn a gaiff ei leisio yn y cyfarfod o gymorth i Mr Davies, sydd wedi trefnu cyfarfod gyda Gweinidog Trafnidiaeth y DU, Theresa Villiers, yr wythnos nesaf.
Gwerth am arian?
Dywedodd llefarydd ar ran Virgin Media, sydd â chanolfan alwadau yn Abertawe ac yn cyflogi dros 700 o bobl, eu bod yn croesawu'r cynllun i wella'r gwasanaeth rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd, lle mae ganddyn nhw ganolfan arall.
"Fe fyddai cysylltiad cyflymach yn ei gwneud yn llawer haws i staff deithio i ac o'u gwaith ac yn cynyddu'r amrywiaeth o bellter y byddai pobl yn fodlon ei wneud i gael gwaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran Drafnidiaeth bod trydaneiddio yn dod â lot o elw o'u cyflwyno i hen gledrau sydd angen adnewyddu'r trenau disel.
"Dyna pam bod y llywodraeth yn parhau i weithio yn agos at Lywodraeth Cymru i ystyried achos busnes i drydaneiddio'r rheilffordd yn ne Cymru o ran gwerth am arian a chytundeb ar gyllido, y byddwn yn gobeithio ei gyhoeddi yn yr haf."
Mae 'na alw hefyd wedi bod am system debyg i'r metro yn y 10 sir yn ne ddwyrain Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Justine Greening, bod angen "achos busnes da" ar gyfer trydaneiddio'r rheilffordd yn y cymoedd.
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Carl Sargeant, wedi dweud bod trydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe a'r cymoedd yn "gwbl hanfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011