Buddsoddiad rheilffyrdd 'i hybu swyddi'

  • Cyhoeddwyd
Train on the lineFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw isadeiledd y rheilffyrdd yn fater sydd wedi ei ddatganoli

Mae grŵp trafnidiaeth sy'n cynrychioli 10 o gynghorau De Cymru yn dweud y bydd trydaneiddio rheilffordd y rhanbarth yn rhoi hwb sylweddol i dwf economaidd.

Mae'r grŵp - Cynghrair Trafnidiaeth De-Ddwyrain Cymru (SEWTA) - yn galw ar Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, i ddadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU.

Y mis diwethaf, dywedodd gweinidog trafnidiaeth Cymru, Carl Sargeant, bod trydaneiddio prif lein Great Western i Abertawe a leiniau'r cymoedd yn "hanfodol".

Dywedodd Mrs Gillan ei bod yn gefnogol i drydaneiddio'r rhwydwaith yn y cymoedd.

'Adfywio economaidd'

Daw'r alwad wedi i'r cynllun i drydaneiddio'r brif lein rhwng Llundain a Chaerdydd gael ei gymeradwyo.

Dywed SEWTA bod angen trydaneiddio'r leiniau o amgylch Caerdydd gan gynnwys leiniau i Lyn Ebwy, Maesteg a Bro Morgannwg ynghyd â'r brif lein i Abertawe.

Dywedodd cadeirydd SEWTA, y Cynghorydd Andrew Morgan, bod gan hynny'r potensial i fod yn "hwb i adfywio economaidd ehangach yn y rhanbarth".

"Byddai'n creu ardal gyswllt o amgylch Caerdydd i boblogaeth o tua 1.4 miliwn o bobl, ac fe fyddai'n golygu lleihad mewn allyriadau carbon."

Nid yw isadeiledd y rheilffyrdd yn fater sydd wedi ei ddatganoli, ac mae'n cael ei reoli gan Adran Drafnidiaeth San Steffan.

'Moderneiddio'

Wrth ymateb i'r alwad, dywedodd Mrs Gillan wrth BBC Cymru: "Mae gwella'r cysylltiad rheilffordd yn rhan hanfodol o wella economi Cymru, ac mae gweld dadl fusnes gref dros drydaneiddio leiniau'r cymoedd yn rhywbeth y byddwn am weld.

"Rydym yn gweithio'n galed gyda'r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru i weld dadl fusnes gref, ac rwyf wedi bod yn dadlau ers tro am yr angen i ddelifro cysylltiadau trafnidiaeth effeithlon.

"Byddai buddsoddiad o'r fath gan Lywodraeth y DU nid yn unig foderneiddio ein rhwydwaith rheilffordd, ond hefyd yn galluogi rhai o'n cymunedau tlotaf i ddenu buddsoddiad a thwf yn y sector preifat."

Ychwanegodd bod y ddadl dros ymestyn y lein drydanol i Abertawe yn cael ei adolygu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol