Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ail gynllun trafnidiaeth

  • Cyhoeddwyd
TrafforddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun, a gyhoeddwyd ddydd Mercher, yn pwysleisio'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y dwyrain a'r gorllewin

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cynllun ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru.

Yn ôl y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Carl Sargeant, mae am flaenoriaethu elfennau o'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol "er mwyn gwneud i system drafnidiaeth Cymru weithio'n well i fynd i'r afael â thlodi a helpu'r economi i dyfu".

Mae'r cyllid sydd ar gael ar gyfer isadeiledd wedi'i dorri o hyd at 40% dros y blynyddoedd nesa, ond dywed y llywodraeth fod yr ail gynllun hwn yn gosod strwythur ar gyfer cyfnod o dair blynedd ar gyfer ffyrdd, rheilffyrdd, trafnidiaeth awyr a chyhoeddus.

Mae'r cynllun, a gyhoeddwyd ddydd Mercher, yn pwysleisio'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y dwyrain a'r gorllewin.

Yn hytrach na gwario ar rai o'r prosiectau mwya' drud, bydd y cynllun newydd yn "canolbwyntio ar gael y gorau o'n rhwydwaith ffyrdd presennol drwy sicrhau bod gwaith cynnal a chadw a gwella ffyrdd yn cael ei gynllunio'n dda".

'Modern ac effeithlon'

Dywed y llywodraeth eu bod yn awyddus i "gynnal system reilffyrdd modern ac effeithlon", a'u bod yn paratoi achos busnes ar gyfer trydaneiddio llinell y Great Western o Abertawe i Gaerdydd a Rheilffyrdd y Cymoedd, gan gydweithio â Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.

Ychwanegon nhw mai trydaneiddio rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd fyddai'r cam cyntaf tuag at ddarparu system reilffyrdd 'metro' yn Ne Cymru.

Yn ogystal, mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i "barhau i wella gwasanaethau bws Cymru" trwy gydweithio'n agos ag awdurdodau lleol, trafnidiaeth gymunedol a'r diwydiant bysiau.

Mae'r cynllun hefyd yn rhoi rhywfaint o bwyslais ar fuddsoddi mewn cerdded a beicio, a'i gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio mewn trefi.

'Datrys problemau'

Dywedodd Carl Sargeant: "Mae'r cynlluniau sy'n cael blaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn dangos ein hymrwymiad ni i ddatrys y problemau trafnidiaeth a wynebir bob dydd gan bobl Cymru.

"Wrth fuddsoddi, rydym wedi canolbwyntio ar hybu twf yr economi, a byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio contractwyr lleol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth pryd bynnag y bo modd er mwyn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn lleol.

"Rydym wedi targedu ein buddsoddiadau er mwyn gwneud y system trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch ac yn fwy deniadol i ddefnyddwyr.

"Ein nod yw creu system reilffyrdd fodern ac effeithlon a fydd yn galluogi ein cymunedau i gael dewis o gysylltiadau rheilffordd sydd o ansawdd uchel ond eto'n fforddiadwy. Bydd hyn yn golygu cynllunio ar gyfer twf yn y defnydd o'r rheilffyrdd gan chwilio ar yr un pryd am ffyrdd o'u gwneud yn fwy effeithlon.

"Byddwn hefyd yn mynd ati i gael y gorau o'n rhwydwaith ffyrdd presennol drwy sicrhau bod gwaith cynnal a chadw a gwella ffyrdd yn cael ei gynllunio'n dda.

"Ond, wrth feddwl am y dyfodol agos, rwyf hefyd wedi clustnodi ychydig o dan £13 miliwn heddiw ar gyfer mân brosiectau trafnidiaeth ar draws Cymru sy'n bwysig iawn i'r trigolion lleol. Gyda'r arian hwn, bydd modd mynd ati ar unwaith i wneud gwaith cynnal a chadw ar ein cefnffyrdd a'n ffyrdd lleol."

"Bydd y gwaith yn rhoi hwb uniongyrchol i'r economi leol hefyd, drwy greu swyddi yn y diwydiant trwsio ac adeiladu ffyrdd."

Bydd y gwelliannau hyn, a gwblheir cyn diwedd mis Mawrth 2012, yn ategu nifer o brosiectau cynnal a chadw eraill megis gosod draeniau a goleuadau. Defnyddir y cyllid hwn i osod arwyneb newydd i lenwi'r tyllau sy'n achosi problemau ar ffyrdd lleol hefyd.

Un prosiect a fydd yn elwa o'r arian hwn fydd cylchfan Abercynon ar yr A470. Bydd y gylchfan yn cael ei datblygu er mwyn lleihau'r tagfeydd traffig sy'n mynd tua'r Gogledd yn ystod yr oriau brig, a dylai hyn wella'r mynediad at y dref.

Yn ôl y llywodraeth, daethpwyd o hyd i'r cyllid hwn o ganlyniad i ailddyrannu adnoddau o fewn cronfa Llywodraeth Leol a Chymunedau 2011-12.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol