Arddangos gwaith celf y Dewin o Solfach, Meic Stevens
- Cyhoeddwyd
Tynnu llun ac nid y gitâr oedd cariad celfyddydol y "dewin o Solfach".
Yn 70 oed eleni mae'r canwr Meic Stevens wedi penderfynu arddangos ei waith celf yn gyhoeddus am y tro cyntaf.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd gyda'i dalentau cerddorol ac am eu caneuon fel Erwan, Môr o Gariad, Bibopalwla'r Delyn Aur, Cân Walter a'r Brawd Houdini.
Ond fe fydd ei dalentau ar gynfas yn cael eu gweld nawr gan y cyhoedd mewn arddangosfa unigryw yn ei hoff oriel, sef Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog.
Cafodd ei dalentau gyda'r brwsh paent sylw cynnar ac fe dderbyniodd ysgoloriaeth i fynychu coleg celf Caerdydd ar ddiwedd y 1950au.
Yn ddiweddarach aeth ymlaen i wneud ei enw fel cerddor ac mae ei ganeuon roc a rol bellach wedi ei wneud yn un o enwau mwya adnabyddus Cymru.
O'r coleg i Ganada
Fe fydd yr arddangosfa yn llwyfannu gwaith a gynhyrchwyd dros y 50 mlynedd diwethaf.
Mae'r gwaith yn cynnwys sgets pensil ac inc o ddyddiau'r coleg i baentiadau acrylig mawr gynhyrchwyd ar Ynys Vancouver, Canada yn 2011.
Bydd dros 40 o waith celf gwreiddiol ar gael i'w prynu ynghyd a chyfle unigryw cyfyngedig i brynu delweddau o gloriau ei albymau, sydd wedi eu hail gynhyrchu ar gynfas (diolch i ganiatâd gan gwmni Sain).
Fe fydd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd o ddydd Sul Mai 20 ymlaen wedi noson arbennig i'r artist nos Wener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2012