Amheuaeth am ffitrwydd Gareth Bale a Joe Ledley

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale a Joe LedleyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale a Joe Ledley yn ddau o wynebau amlyca' pêl-droed Cymru

Mae 'na amheuaeth am ffitrwydd dau o chwaraewyr rhyngwladol Cymru ar drothwy eu gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd ar Fai 27.

Fe fydd Gareth Bale o Tottenham Hotspur a Joe Ledley o Celtic, yn cael eu hasesu gan staff meddygol Cymru ddydd Llun.

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman eisoes wedi galw amddiffynwr Nottingham Forest, Joel Lynch, i'r garfan.

Mae Lynch, sydd heb ennill cap rhyngwladol, yn ennill ei le yn y garfan drwy ei dad a anwyd n Y Barri.

Mae'n cymryd lle Neal Eardley yn y garfan.

Mae Eardley, a'r gôl-geidwad Wayne Hennesey, wedi eu hanafu.

Gemau Olympaidd

Doedd Lynch ddim ar y rhestr wrthgefn pan gyhoeddodd Coleman ei garfan ar Fai 10.

Ar y rhestr ar gyfer y daith i America y mae Craig Bellamy a chapten Cymru Aaron Ramsey.

Mae enwau Bellamy, Ramsey a Bale wedi eu cysylltu gyda bod yn rhan o dîm pêl-droed GB yn y Gemau Olympaidd.

Roedd 'na amheuaeth a fyddai Bellamy yn ymddeol o chwarae'n rhyngwladol.

Ond mae Coleman yn obeithiol y bydd yn parhau a'i yrfa ac yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 a fydd yn dechrau fis Medi.

Tri sydd ddim wedi eu henwi yn y garfan ar gyfer y daith i America yw Rob Earnshaw, Danny Gabbidon a James Collins.

Mae Coleman wedi mynnu bod y tri yn dal yn rhan o'i gynlluniau ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd.

Y gêm yn erbyn Mecsico yn Stadiwm MetLife fydd i bob pwrpas gêm gyntaf Coleman wrth y llyw.

Cafodd ei benodi fel rheolwr, gan olynnu Gary Speed, cyn y gêm yn erbyn Costa Rica.

Roedd y gêm honno ym mis Chwefror er cof am Speed ac fe benderfynodd Coleman y byddai'n cymryd cam yn ôl gydag Osian Roberts wrth y llyw mewn gêm emosiynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol