Hwb i'r gwledydd Celtaidd i gynnal Ewro 2020

  • Cyhoeddwyd
Michel PlatiniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sylwadau Michel Platini o bosib yn hwb i Gymru, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon

Mae cais posib ar y cyd gan Gymru, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon i gynnal pencampwriaeth pêl-droed Euro 2020 wedi cael hwb gan Lywydd UEFA.

Fe wnaeth Michel Platini hi'n glir na fydd yn pleidleisio o blaid Twrci i gynnal y bencampwriaeth os ydi Istanbul yn ennill yr hawl i gynnal y Gemau Olympaidd.

Mae'r posibilrwydd y bydd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Istanbul wedi cynyddu ar ôl i'r Bwrdd Olympaidd osod y ddinas ar restr fer gyda Tokyo a Madrid gan wrthod Doha a Baku.

Mae nifer o gefnogwyr Olympaidd yn gweld Istanbul bellach fel ffefryn, y ddinas gyntaf sydd bennaf yn wlad Foslemaidd, i gynnal y Gemau.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Cymru, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon ddweud bod ganddyn nhw wir ddiddordeb i wneud cais ar gyfer cynnal Euro 2020.

Mae cyhoeddiad Platini yn arwydd o gefnogaeth i'r cais.

Un neu'r llall

Roedd Platini wedi cefnogi cais Twrci yn gyhoeddus.

"Ond os ydi Twrci yn cael y Gemau Olympaidd, fyddan nhw ddim yn cynnal yr Euro's," meddai.

"Os na fyddan nhw'n cael y Gemau Olympaidd, fe fyddan nhw'n dal i allu gwneud cais am yr Euro's ac fe fyddaf yn dal i bleidleisio o'u plaid."

Dydi'r ddau gyhoeddiad ddim yn digwydd yr un pryd ac mae Platini wedi dweud bod modd iddyn nhw barhau a'u cais am y ddau ddigwyddiad, er nad yw'n ffafriol i hynny.

Mae trafodaethau pellach wedi eu cynnal am gais posib gan Gymru, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon, ymhlith swyddogion pêl-droed o'r tair gwlad yn Budapest, lle mae FIFA yn cyfarfod.

Does dim disgwyl penderfyniad am rai misoedd.

Ond mae penderfyniad y Bwrdd Olympaidd i roi Istanbul ar y rhestr fer yn gwneud cais y gwledydd Celtaidd yn fwy posib yn ogystal â hwb gan eiriau Platini.

Mae rhai o swyddogion UEFA yn amheus o fwriad Twrci ar gyfer Ewro 2020 o ganlyniad i drafferthion trefnu gemau sydd wedi achosi anrhefn ymhlith gweinyddiaeth bêl-droed y wlad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol