Pryder Gatland am sêr yn gadael
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn cyfaddef nad yw'n gwybod sut i atal chwaraewyr rhag gadael Cymru i chwarae yn Ffrainc.
Daeth cadarnhad yr wythnos hon y bydd Gethin Jenkins yn gadael y Gleision yn yr haf i chwarae yn Ffrainc gyda Toulon.
Mae Mike Phillips, James Hook a Lee Byrne eisoes yn Ffrainc tra bod Huw Bennett, Luke Charteris ac Aled Brew yn debyg o symud yn yr haf.
"Dwi ddim yn gwybod beth yw'r ateb," meddai hyffordd Cymru, Warren Gatland.
"Mae'n anodd cystadlu gyda'r cyflogau y mae'r chwaraewyr yn cael eu cynnig dramor o ystyried y pwysau ariannol ar y rhanbarthau ar hyn o bryd.
"Fy safbwynt i yw y byddai'n ddelfrydol pe bai'r chwaraewyr yn aros yma ac fe fyddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cadw yma ond mae gyrfaoedd chwaraewyr ar y lefel yma yn fyr iawn."
Uchafswm
Mae pedwar rhanbarth Cymru wedi cytuno ar uchafswm cyflog o'r tymor nesa ymlaen o £3.5 miliwn am y garfan gyfan ac mae chwaraewyr o Gymru yn cael cynnig cyflogau mawr i symud i gynghrair Ffrainc.
Mae Gethin Jenkins, sydd wedi ennill 84 o gapiau i Gymru ac wedi chwarae i'r Llewod mewn pum gêm brawf, wedi datgelu'r cynnig gafodd yn Ffrainc.
Dywedodd y chwaraewr 31 oed y mae ei gytundeb gyda'r Gleision yn dod i ben yn yr haf: "Roeddwn i ond wedi cael cynnig tua 60% o'r cyflog yr ydw i'n ei gael ar hyn o bryd ac effeithiodd hynny'n fawr ar y penderfyniad i adael."
Yn y cyfamser, mae'r mewnwr Mike Phillips yn credu bod symud i glwb Bayonne wedi effeithio'n bositif ar ei yrfa.
"Mae'r newid wedi bod yn dda i mi," meddai Phillips.
"Dyma oeddwn i am ei wneud ac rwy wedi dwlu ar bob eiliad o'r profiad ...
"Roedd yn gyfle i brofi rhywbeth newydd. Rwy'n byw yn Biarritz, sydd yn bert iawn ac mae'r bobl wedi bod yn groesawgar iawn."
'Seiliau cryf'
Cyn i Jenkins gyhoeddi ei fod yn gadael, roedd bachwr a chyn-gapten Cymru, Matthew Rees, wedi mynegi pryder am y nifer o chwaraewyr sy'n gadael.
"Rwy'n credu bod rhaid gwneud rhywbeth yn fuan i atal hyn rhag digwydd," meddai.
"Mae'r cefnogwyr am weld y chwaraewyr gorau yn chwarae yng Nghymru.
"Rydyn ni wedi gosod seiliau cryf yn nhermau'r tîm rhyngwladol yng Nghymru.
"Ond er mwyn cadw'r cryfder rhaid cael rhanbarthau cryf a rhaid datrys hyn cyn gynted â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012