Mewn llun: Pumed Diwrnod Y Fflam yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod braf arall, mae'r torfeydd wedi dechrau ymgasgu yn Stryd y Castell dros awr cyn i'r Fflam gychwyn yng Nghastell Biwmares ar Bumed Diwrnod y daith yng Nghymru

Lorna Price oedd y cyntaf i gludo'r Fflam ddydd Mawrth gan gychwyn yng Nghastell Biwmares

Aelodau Bad Achub Biwmares yn barod i gludo'r Fflam ar hyd Y Fenai i Borthaethwy

Y Fflam yn cael ei chludo ar Y Fenai gan aelodau Bad Achub Biwmares

Elen Evans yn cludo'r Fflam ar y Bad Achub ar Y Fenai

Mari Davies gafodd gludo'r Fflam dros Bont Menai o Ynys Môn i'r tir mawr

Roedd torfeydd ar y tir mawr i groesawu Mari Davies gafodd gludo'r Fflam o Ynys Môn

Sarah Thomas yn cludo'r Fflam drwy Gonwy gyda'r castell y tu ôl iddi

Roedd rhai cannoedd o bobl ar Yr Wyddfa i weld y Fflam yn cael ei chludo i'r copa gan Syr Chris Bonnington

Dyma'r lleoliad ucha y bydd y Fflam tra ar ei thaith drwy Brydain

Ian Turner yn cludo'r Fflam mewn car cebl o Ben y Gogarth i Landudno

Plant ysgol ym Mharc Eirias yn edrych ymlaen i groesawu'r Fflam yno

Dr John Green yn rhoi cyfle i'r bobl oedd wedi ymgasglu ym Mharc Eirias i gyffwrdd y Ffagl

James Lusted gafodd y fraint o gludo'r Fflam yn Llandrillo-yn-Rhos

Roedd nifer o dramorwyr yn cael cludo'r Fflam, gan gynnwys Igor Dolezel rhwng yn Y Rhyl, drwy noddwyr y daith

Nicola Cockburn yn cael y cyfle i gludo'r Fflam ym Mae Cinmel gyda chymorth ei chi

Beth Tweddel yn cludo'r Fflam yn Saltney sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr wrth i'r Fflam fynd i Gaer dros nos

Ac fe gafodd y Grochan ei thanio gan Jason Maguire a gludodd y Fflam i mewn ar ei geffyl i gae rasio Caer lle'r oedd miloedd yn barod am y dathliad
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012