Cymru'n uwch ar restr detholion

  • Cyhoeddwyd
Craig Bellamy a Severo Meza yn edrych ar Steve Morison gyda'r bêlFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Cymru'r gêm gyfeillgar o 2-0 yn erbyn Mecsico

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi codi tri lle yn rhestr detholion y byd.

Ar restr ddiweddaraf FIFA, corff rheoli'r gamp drwy'r byd, mae Cymru bellach yn safle 38 er iddyn nhw golli eu gêm yn erbyn Mecsico ym mis Mai.

Mae Sbaen wedi ymestyn y bwlch ar frig y rhestr ond y tîm agosaf atyn nhw yw Uruguay wedi iddyn nhw gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2010 ac ennill y Copa America yr haf diwethaf.

Mae Lloegr wedi codi un safle i chweched a'r Alban wedi codi saith safle i rif 41.

Ond siom gafodd Gogledd Iwerddon, gan ddisgyn tri safle i rif 103.

Aros yn yr unfan wnaeth Gweriniaeth Iwerddon yn safle rhif 18.