Mecsico 2-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mecsico 2-0 Cymru
Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Mecsico yn Stadiwm MetLife, Efrog Newydd ddydd Sul.
Mae Mecsico 21 lle yn uwch na Chymru yn rhestr ddetholion y byd ac roedd hynny i'w gweld yn yr hanner cyntaf wrth iddyn nhw fygwth droeon.
Llwyddodd Cymru i'w cadw allan tan 42 munud gyda pheniad De Nigris wrth y postyn pellaf yn rhoi Mecsico yn haeddiannol ar y blaen.
Wrth ildio'r gôl roedd amddiffyn gwael gan Chris Gunter a gollodd ei ddyn ac fe ddylai'r golwr Jason Brown o Aberdeen hefyd fod wedi gwneud yn well.
Cafodd yntau ei gyfle gan fod y gôl-geidwaid Wayne Hennessey, Boaz Myhill a Lewis Price i gyd yn absennol.
Ond fe wnaeth Brown arbediad o'r safon uchaf wedi 54 munud o beniad Dos Santos.
Bellamy
Roedd yr ail hanner yn llifo o un pen i'r cae i'r llall, gyda Chymru yn dod yn agos wedi 65 munud gydag ergyd Craig Bellamy.
Doedd Gareth Bale a Joe Ledley ddim yn y garfan oherwydd anafiadau ond roedd presenoldeb Craig Bellamy yn hwb i Coleman.
Roedd Coleman yn credu bod hi'n gyfle arbennig i'r chwaraewr 30 oed i ennill ei le ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 a fydd yn dechrau yn erbyn Gwlad Belg ym mis Medi.
Seliwyd y fuddugoliaeth a chodwyd y sombreros wedi 89 munud wrth i De Nigris sgorio ei ail, wrth iddo anwesu croesiad pwerus i fewn i'r rhwyd.
Dywedodd Chris Coleman ei fod yn gwireddu breuddwyd wrth gymryd rheolaeth o dîm pêl-droed Cymru am y tro cyntaf nos Sul.
Doedd hon ddim yn fedydd tân iddo, ond mae ganddo well syniad yn awr am faint y dasg sydd o'i flaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd22 Mai 2012
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012