Cystadleuwyr 2012: Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Seiclo trac

Ganwyd: 25/5/86

Geraint Thomas yw un o obeithion gorau Cymru am fedal aur yn Llundain 2012.

Eisoes mae'n bencampwr Olympaidd, gan ennill y fedal aur yn ras ymlid tîm y Gemau yn Beijing yn 2008, gan dorri'r record byd ddwywaith yn ystod y gystadleuaeth.

Enillodd y tîm bencampwriaeth y byd yn yr un flwyddyn

Yn 2007, ef oedd y cystadleuydd ieuengaf yn y Tour de France, a'r Cymro cyntaf i gystadlu ers 40 mlynedd, ac fe ddychwelodd i rasio ar y ffordd am gyfnod wedi Beijing.

Roedd ei lwyddiant yn ysgubol am seiclwr ifanc. Dros y tair blynedd diwethaf, mae Thomas wedi gorffen yn 2il, 3ydd a 5ed mewn cymalau o'r Tour de France ynghyd â gwisgo siwmper y seiclwr ifanc gorau dros 12 cymal.

Fel yn 2008, mae Thomas wedi penderfynnu peidio rasio ar y ffordd yn 2012 er mwyn canolbwyntio ar y Gemau, ac unwaith eto roedd yn aelod o'r tîm enillodd Bencampwriaeth y Byd yn y ras ymlid eleni.