Grantiau gwerth £4m tuag at ein treftadaeth

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw creu canolfan gelfyddydau cymunedol yn Neuadd Ogwen

Bydd miloedd o bunnoedd yn cael eu gwario ar adfywio hen gastell a chreu canolfan gelfyddydol newydd.

Mae'r ddau brosiect yn elwa ar arian rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT).

Mae Castell Aberteifi a chanolfan gelfyddydau cymunedol newydd yng Ngwynedd yn rhannu dros £4 miliwn o'r rhaglen gwerth £13 miliwn, partneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru.

Y bwriad yw darparu ariannu cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau fel tir ac adeiladau o fudiadau sector cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol.

Bwriad y prosiectau yw adfywio ac adnewyddu er mwyn gwella bywoliaethau a chymdogaethau.

Canolfan amlbwrpas

Bydd Cwmni Tabernacl (Bethesda) yn defnyddio £610,368 i adnewyddu Neuadd Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda a chreu canolfan gelfyddydau cymunedol amlbwrpas fydd yn cynnwys sinema, theatr a chyngherddau byw, gweithgareddau treftadaeth ac oriel ar gyfer artistiaid lleol.

Mae 'na amcangyfri y bydd y prosiect yn costio hyd at £1 miliwn i wella cyfleusterau fydd yn cynnig addysgu cerddorol, dosbarthiadau drama a dawns, addysg oedolion, amrywiaeth o gyfleoedd gweithdy a swyddfeydd ar gyfer cyngor y gymuned a grwpiau cymunedol eraill.

"Mae Tabernacl yn hynod o falch o dderbyn y grant yma," meddai Dyfrig Jones, Ysgrifennydd Cwmni Tabernacl.

"Er bod angen i ni godi arian ychwanegol o hyd, mae'r cyfraniad yn golygu ein bod bellach lawer yn agosach at gyrraedd ein nod.

'Trawsnewid'

"Ar ôl i ni sicrhau'r holl arian ar gyfer y prosiect, byddwn yn gallu gwneud yr holl waith adnewyddu sylweddol y mae ei angen i drawsnewid Neuadd Ogwen yn ganolfan gymunedol a diwylliannol o'r radd flaenaf ac fe fydd yn hwb enfawr i Stryd Fawr Bethesda."

Bydd grant o £743,345 i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y prosiect Castell Aberteifi.

Yn rhan o brosiect gwerth £11 miliwn, nod y grant yw helpu adfer Castell Aberteifi ac adeiladau cysylltiedig ar y safle dwy erw.

Codwyd y castell yn 1100 gan Gilbert de Clare, Iarll cyntaf Penfro.

'Darn ola'

Y bwriad yw adnewyddu'r adeilad i gyflwyno gweithgareddau megis atyniad treftadaeth i ymwelwyr, arddangosfeydd, siopau, bwyty, digwyddiadau preifat a gweithgareddau addysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd arian yn adfer Castell Aberteifi

"Y dyfarniad yma yw'r darn ola pwysig o'n pecyn ariannu i adfer Castell Aberteifi," meddai Jann Tucker, cadeirydd yr ymddiriedolaeth.

"Hwn yw'r man cychwyn ar gyfer y datblygiad pwysica yn y dre ers canrifoedd.

"Mae'n newyddion gwych i'r castell ac i'r dre."

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, fod y rhaglen yn dod â chwa o awyr iach i gyfleusterau cymunedol yng Nghymru.

"Rwy'n siŵr y bydd yn creu buddion cymdeithasol ac economaidd a hefyd yn grymuso cymunedol lleol i ddefnyddio adeiladau a thir yn y ffordd fwyaf priodol ..."

Dywedodd Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor CAT, Mike Theodoulou: 'Rydym yn y pen draw yn helpu mwy o bobl i elwa o'u hasedau cymunedol lleol a hefyd cynhyrchu incwm a chyflogaeth leol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol