Hwb arall i hen gastell yr Arglwydd Rhys
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaith o ailddatblygu Castell Aberteifi rhywfaint yn haws ar ôl i chwarel leol gael caniatâd i ailddechrau cloddio.
Yn ôl y penseiri sy'n gyfrifol am yr ailddatblygiad mae angen llechi Cilgerran ar gyfer y gwaith, a'r unig ffynhonnell bosib yw Chwarel Cefn yng Nghilgerran.
Nawr mae cynghorwyr sir Benfro wedi rhoi caniatâd cynllunio a thrwydded cloddio ar gyfer y safle 1.02 hectar.
Bydd y chwarel yn cael cloddio 15,000 tunnell o lechi a cherrig dros gyfnod o 15 mlynedd.
Daeth y cloddio i ben yn y chwarel Cefn yn Rhagfyr 2009 ar i'r drwydded ddod i ben.
Roedd cwmni penseiri Purcell Miller Tritton wedi anfon llythyr o gefnogaeth i'r cais cynllunio, gan ddweud mai hwn oedd yr unig ffynhonnell o lechi a charreg ar gyfer y prosiect o ailddatblygu Castell Aberteifi.
Yr wythnos diwethaf dyfarnwyd grant o £743,345 i Ymddiriedolaeth Cadwgan gan y Loteri Fawr er mwyn datblygu eu cynlluniau ar gyfer y prosiect y castell.
'Man cychwyn'
Yn rhan o brosiect gwerth £11 miliwn, nod yr ariannu yw helpu i achub y castell ac adeiladau cysylltiedig ar y safle dwy erw.
Y bwriad yw adnewyddu'r adeilad i gyflwyno gweithgareddau megis atyniad treftadaeth i ymwelwyr, arddangosfeydd, siopau, bwyty, digwyddiadau preifat a gweithgareddau addysgol.
Caiff llawr uchaf y prif gastell, y Tŷ Gwyrdd, ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ddosbarthiadau i oedolion, cyfarfodydd a chynadleddau.
Dywedodd Jann Tucker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan: "Y dyfarniad yw'r darn olaf pwysig o'n pecyn ariannu i adfer Castell Aberteifi. Y dyfarniad hwn yw'r man cychwyn ar gyfer y datblygiad pwysicaf yn y dref ers canrifoedd. Mae'n newyddion gwych i'r castell ac i'r dref."
"Rydym wedi cael cefnogaeth ysgubol gan arianwyr megis y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru - erbyn hyn mae'n rhaid i ni fel cymuned adlewyrchu'r gefnogaeth honno trwy godi £150,000 ein hunain fel arian cyfatebol."
Bydd yna ddiwrnod agored yn cael ei gynnal ar Safle Castell ddydd Sadwrn 14 lle bydd cyfle i bobl fynd ar daith o amgylch y safle.
Codwyd y castell yn 1100 gan Gilbert de Clare, Iarll cyntaf Penfro.
Yn 1166 cymerwyd y castell gan Rhys ap Gruffydd, ac ail-adeiladodd e'r castell mewn carreg yn 1171.
Yn 1176 cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf y gwyddys amdani yn y castell, sef Eisteddfod Aberteifi.