Cystadleuwyr 2012: Christian Malcolm

  • Cyhoeddwyd
Christian Malcolm
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Christian Malcolm yn y Gemau Olympaidd am y pedwerydd tro

Athletau - 200m a'r ras gyfnewid 4X100m

Ganwyd: Mehefin 3, 1979

Yn Llundain fe fydd Christian Malcolm yn cyflawni camp sy'n brin iawn mewn athletau modern, sef cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y pedwerdydd tro.

Fel Dai Greene, roedd Malcolm yn bêl-droediwr talentog fel bachgen, ond athletau oedd y dewis cyntaf ac yn 1997 ennillodd ddwy fedal aur ac un arian ym Mhencampwriaeth Ieuenctid Ewrop.

Daeth llwyddiant hefyd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1998 lle enillodd fedal arian yn y 200m gydag amser o 20.29, ac yn yr un flwyddyn fe gafodd fedalau aur yn y 100m a'r 200m ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn Ffrainc.

Daeth ei Gemau Olympaidd cyntaf yn Sydney yn 2000 ac fe orffennodd yn bumed er clod mawr iddo.

Bu'n rhan o dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Athen yn 2004 a Beijing yn 2008 lle dangosodd nad oedd wedi colli ei allu drwy orffen yn bumed unwaith eto.

Fe ddaeth blwyddyn arall dda iddo yn 2010 gyda medal arian dros 200m ym Mhencampwriaeth Ewrop, ac un efydd yng Ngemau'r Gymanwlad.