Cystadleuwyr 2012: Rhys Williams

  • Cyhoeddwyd
Rhys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cipiodd Rhys Williams y fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Helsinki

Athletau - 400m dros y clwydi

Ganwyd: Chwefror 27, 1984

Cafodd Rhys Williams ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n fab i'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol J.J.Williams.

Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llanhari, ac fe ddaeth ei dalent am athletau i'r amlwg yn fuan.

Enillodd Williams y 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaeth Ieuenctid Ewrop yn 2003, ac yn 2006 enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop gan orffen yn bedwerdydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn yr un flwyddyn.

Ym mis Mehefin 2008 roedd yn rhedeg ym Mhencampwriaeth Cymru pan gafodd anaf i'w droed - anaf a'i gadwodd allan o'r Gemau Olympaidd yn Beijing yn ddiweddarachy flwyddyn honno.

Ond yn 2010 roedd yn ôl ymysg y medalau, gan gipio'r fedal arian y tu ôl i Dai Greene ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Barcelona.

Roedd hi'n ymddangos bod gobeithion Olympaidd Williams ar ben pan ddisgynnodd ar y glwyd olaf ond un yn y treialon Olympaidd Prydeinig yn Birmingham ddiwedd Mehefin 2012.

Ond wythnos yn ddiweddarach daeth ei orchestfwyaf hyd yma. Yn absenoldeb Dai Greene, enillodd Williams Bencampwriaeth Ewrop yn Helsinki - gan gyflawni'r amser angenrheidiol wrth wneud - i sicrhau ei le yn Team GB ar gyfer Llundain.

Ffaith ddiddorol

Roedd Williams yn bencampwr nofio Cymru dan-15 yn y dull cefn, ac ar hyn o bryd mae'n astudio ar gyfer gradd doethuriaeth ym Mhrifysgol Morgannwg.