Cystadleuwyr 2012: Aaron Ramsey

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey

Pêl-droed

Ganwyd: Rhagfyr 26, 1990

Mae Aaron Ramsey yn gapten tîm pêl-droed Cymru ac yn chwarae i glwb Arsenal yn Uwchgynghrair Lloegr.

Mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ond fe ddenodd Ramsey sylw sgowtiaid Clwb Pêl-droed Caerdydd pan yn 8 oed wrth chwarae yng nghystadleuaeth bêl-droed yr Urdd.

Yn Ebrill 2007, fe dorrodd record John Toshack fel y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i dîm cyntaf Caerdydd pan yn 16 mlynedd a 124 o ddyddiau oed.

Erbyn 2008, Ramsey oedd yr ail ieuengaf erioed i chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Portsmouth, ond roedd ei berfformiadau i Gaerdydd eisoes wedi denu sylw'r clybiau mawr.

Er bod gan Manchester United ac Everton ddiddordeb mewn arwyddo'r chwaraewr canol cae, fe ddewisodd yn hytrach fynd i Arsenal am £5 miliwn.

Yn 2010, torrodd Ramsey ei goes mewn gêm yn erbyn Stoke a bu allan o bêl-droed am flwyddyn.

Ond ers dychwelyd fe gafodd ei benodi yn gapten tîm Cymru, ac mae bellach wedi arwyddo cytundeb newydd tymor hir gydag Arsenal.