Cystadleuwyr 2012: Craig Bellamy
- Cyhoeddwyd
Pêl-droed
Ganwyd: Gorffennaf 13, 1979
Mae Craig Bellamy wedi bod yn enw cyfarwydd i gefnogwyr pêl-droed yng Nghymru ers blynyddoedd gan ennill 69 o gapiau i'w wlad a sgorio 19 o goliau.
Yn ystod ei yrfa, mae wedi cynrychioli nifer o glybiau mwyaf Lloegr, Cymru a'r Alban gan gynnwys Lerpwl, Manchester City, Newcastle, Celtic a Chaerdydd (ar fenthyg).
Ond dechreuodd ei yrfa fel chwaraewr ieuenctid yn Norwich City, ac aeth ymlaen i chwarae i'r tîm cyntaf am bedair blynedd.
Bu'n gapten tîm Cymru am bedair blynedd, ond fe ildiodd yr awenau i Aaron Ramsey yn 2011 oherwydd cyfres o anafiadau.
Bellamy yw un o dri chwaraewr yn ngharfan Team GB sydd dros 23 oed, se uchafswm oed timau'r gystadleuaeth Olympaidd - y ddau arall yw Ryan Giggs a Micah Richards.
Mae Bellamy wedi bod yn destun dadlau am ei ymddygiad ar y cae ac oddi arno, ond mae ei waith elusennol yn haeddu sylw.
Mae Bellamy wedi sefydlu academi bêl-droed i blant difreintiedig yn Sierra Leone, ac wedi codi miliynau o bunnoedd i elusennau eraill dros y blynyddoedd.