Cystadleuwyr 2012: Ryan Giggs
- Cyhoeddwyd
Pêl-droed
Ganwyd: Tachwedd 29, 1973
Mae Ryan Giggs wedi ennill mwy o fedalau na'r un chwaraewr arall yn hanes pêl-droed yn Lloegr.
Er iddo chwarae i dîm ieuenctid Manchester City, fe symudodd i United yn 1987, a dyna lle bu'n ennill ei fara menyn ers hynny.
Mae wedi chwarae 909 o gemau i'r cochion, gan sgorio 163 o goliau. Giggs yw'r unig chwaraewr i sgorio ymhob tymor yn Uwchgynghrair Lloegr ers ei sefydlu yn 1992.
Yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb mae ganddo fedal enillydd Uwchgynghrair Lloegr (12), Cwpan FA Lloegr (4), Cwpan y Gygnhrair (4), Cynghrair y Pencampwyr (2) a Chwpan Clybiau'r Byd.
Cafodd ei feirniadu am beidio chwarae mewn gemau cyfeillgar i Gymru gyda nifer o gefnogwyr yn credu ei fod ynn ffugio anafiadau er mwyn peidio chwarae.
Mewn gyrfa ryngwladol a barodd o 1991 tan iddo ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2007, chwaraeodd 64 o gemau i Gymru gan sgorio 12 o goliau.
O ran gwobrau personol, fe ddaeth llawer o'r rheini wedi iddo ymddeol o bêl-droed rhyngwladol. Yn 2009, cafodd ei ethol gan eigyd-chwaraewyr yn chwaraewr gorau'r Uwchgynghrair, ac yn yr un flwyddyn cafodd hefyd ei ddewis yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn gan y BBC.
Bydd Giggs yn un o dri chwaraewr hŷn sy'n cael eu caniatau yn y garfan Olympaidd ynghyd â Craig Bellamy a Micah Richards.