Cystadleuwyr 2012: Marco Loughran

  • Cyhoeddwyd
Marco Loughran
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Marco Loughran i'r ysgol yn Awstralia ac mae'n astudio mewn prifysgol yn America

Nofio - 200m dull cefn

Ganwyd: Mawrth 24, 1989

Mae Marco Loughran o Abertawe wedi teithio'r byd wrth nofio.

Aeth i'r ysgol yn Awstralia a bu'n astudio ym Mhrifysgol Florida yn America, ond yn fwy diweddar bu'n ymarfer gyda chlwb nofio Guildford yn Surrey.

Mae Loughran wedi bod yn benderfynnl o ennill ei le gyda Team GB yn dilyn siom aruthrol yn 2008.

Ni chafodd ei ddewis ar gyfer Gemau Olympaidd Beijing pan ddewiswyd Jimmy Goddard o'i flaen, ond yna fe dynnodd Goddard yn ôl o'r ras yn China.

Gadawodd Florida chwe mis yn ôl, ond yn ystod ei gyfnod yno bu'n nofio ochr yn ochr â'r pencampwr Olympaidd o America, Ryan Lochte.

Uchafbwyntiau ei yrfa hyd yma yw ennill y fedal aur ym Mhencampwriaeth Ieuenctid Ewrop yn 2007 yn y ras 100m dull cefn.

Daeth yn bedwerydd wrth gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010.