Diwygio Tŷ'r Arglwyddi: Dim pleidlais nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd
Tŷ'r ArglwyddiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Democratiaid Rhyddfrydol: Tŷ'r Arglwyddi sy'n hanner y maint presennol

Ni fydd pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin nos Fawrth ar amserlen y llywodraeth o ran diwygio Tŷ'r Arglwyddi.

Y gred oedd y byddai tua 100 o Geidwadwyr wedi pleidleisio yn erbyn cynnig o blaid cyfyngu ar yr amser ar gyfer dadlau.

Dywedodd gweinidogion eu bod yn "ymroddedig" i gynlluniau o hyd.

Mae Llywodraeth San Steffan am Ail Siambr lai gyda'r mwyafrif o arglwyddi wedi eu hethol.

Roedd y BBC yn deall bod dros 70 wedi arwyddo llythyr yn erbyn y cynnig, gan gynnwys Guto Bebb (Aberconwy) ac Alun Cairns (Bro Morgannwg).

80%

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid Tŷ'r Arglwyddi sy'n hanner y maint presennol a lle mae 80% yn cael eu hethol.

Ond mae maniffesto 2010 y Ceidwadwyr a Llafur o blaid diwygio.

Dywedodd ffynonellau yn y Democratiaid Rhyddfrydol fod y Prif Weinidog David Cameron wedi dweud wrth ei ddirprwy Nick Clegg fod angen "gollwng" y cynnig fel bod modd denu cefnogaeth Ceidwadwyr yn ystod y ddau fis nesa'.