Newidiadau yn gynt na'r disgwyl i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Bydd newidiadau i rai o wasanaethau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn digwydd yn gynt na'r disgwyl.
Bydd gwasanaethau brys yn cael eu trosglwyddo oddi yno i ysbytai cyfagos ar Awst 22.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg maen nhw am osgoi problemau allai godi wrth drosglwyddo gwasanaethau yn agosach at ŵyl banc ar ddiwedd mis Awst.
O hanner nos ar Awst 21 fydd y gwasanaeth 999 a chleifion sy'n cael eu hanfon gan feddygon teulu yn dod i ben.
Dywed y swyddogion iechyd y byddai cyflwyno'r newid yn gynt yn lleihau'r problemau ar gyfer y newid a ddaw i rym yn llawn ar Fedi 3.
"Mae'r dyddiau - hyd at bythefnos - ar ôl Gŵyl y Banc yn gallu bod yn brysur iawn iawn, gyda phwysau ychwanegol ar ein gwasanaeth," meddai Alex Howells o'r bwrdd iechyd.
Caniatáu amser
"Mae ein huwch feddygon a nyrsys yn ein cynghori y byddai'n well osgoi ychwanegu at y pwysau blynyddol yr adeg yma o'r flwyddyn gyda newidiadau brys i'r gwasanaeth.
"Maen nhw wedi ein cynghori i ddod a'r gwasanaethau i ben cyn Awst 27 a'r amser cynharaf y gallwn ni wneud hyn yw'r wythnos nesaf."
Dywedodd y byddai hyn yn caniatáu amser i gwblhau'r newidiadau erbyn dechrau mis Medi.
Fe fydd uned penderfyniadau clinigol fwy yn Ysbyty Treforys ar gael o Awst 22 ac fe fydd 22 gwely ar gael yn Ward 6 Ysbyty Singleton a 10 gwely yn Ward 20 Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe fydd y gwelyau yma a'r staff nyrsio sy'n cael eu symud o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn darparu gwasanaeth i'r cleifion fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.
Fe fydd 'na welyau ychwanegol ar gael yn y tri ysbyty am rai wythnosau ar ôl y newidiadau.