Mark Colbourne yn ennill medal aur

  • Cyhoeddwyd
Ar wib: Mark ColbourneFfynhonnell y llun, Chanel 4
Disgrifiad o’r llun,

Ar wib: Mark Colbourne

Mae'r seiclwr 43 oed o Gymru, Mark Colbourne, wedi ennill medal aur i Brydain yn y Gemau Paralympaidd.

Enillodd y dyn o Dredegar fedal aur yn y felodrôm yn y ras 1.3 cilomedr unigol.

Wrth ennill fe wnaeth gofnodi record byd o 3:53.881 gyda Li Zhang Yu o China yn ail.

Colbourne wnaeth sicrhau medal gyntaf Prydain yn y Gemau Paralympaidd ddydd Iau.

Enillodd fedal arian yn y ras C1-2-3 yn erbyn y cloc.

Blwch post yn Nhredegar, Blaenau Gwent, yn cael ei baentio'n aur ddydd Sadwrn er mwyn anrhydeddu Mark Colbourne
Disgrifiad o’r llun,

Blwch post yn Nhredegar, Blaenau Gwent, yn cael ei baentio'n aur ddydd Sadwrn er mwyn anrhydeddu Mark Colbourne

'Arbennig'

Yn gynharach ddydd Gwener, yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf fe enillodd Aled Sion Davies fedal gyntaf Prydain yn y cystadlaethau athletau.

Enillodd y fedal efydd yn y gystadleuaeth taflu pwysau F42/44.

"Roedd hi'n ornest anodd ond roeddwn i'n hyderus," meddai'r dyn 21 oed o Ben-y-bont ar Ogwr.

"Roedd 'na bencampwyr yno a rhai gyda record byd ond roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi wneud rhywbeth arbennig."

Aled Sion DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aled Sion Davies yn amlwg yn hynod falch o'i lwyddiant

Gyda chwe ymgais sgoriodd Davies 961 pwynt.

Daeth y fedal gyda'i chweched ymgais, tafliad o 13.78 metr. Roedd 26 phwynt ar ôl Darko Kralj o Groatia enillodd yr arian wrth i Jackie Christiansen o Ddenmarc gipio'r aur.

Roedd y Stadiwm Olympaidd bron yn llawn ar fore cynta'r athletau.

Fe wnaeth Yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru, longyfarch Davies.

"Rydym yn gweld Aled yn rhoi oriau o waith bob wythnos yn y Ganolfan Genedlaethol ac mae'r fedal yn goron ar ei waith caled.

"Mae'n un o'n sêr ifanc ni o ran athletau Prydain ac wedi cyflawni cymaint mewn amser byr iawn.

"Yn sicr, mae athletwyr Cymru wedi cael cychwyn gwych i'r gemau.

"Nid yn unig gwaith yr unigolion mae angen ei ganmol ond gwaith Academi Chwaraeon Anabl Cymru a'r hyfforddwr Anthony Hughes.

"Yn bersonol, mae'n wych imi weld rhywun o fy nhref enedigol yn cael cymaint o lwyddiant."