Yr Ail Ddiwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Paralympaidd

  • Cyhoeddwyd

Ar ail ddiwrnod y Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 mae nifer o Gymry yn cystadlu mewn amryw o gampau.

Ar y diwrnod cyntaf cafodd Gymry lwyddiant gan ennill dwy fedal arian.

Y sieclwr Mark Colbourne oedd y cyntaf i ennill medal ar ran tîm Prydain.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

SEICLO:

Mae'r seiclwr 43 oed o Gymru, Mark Colbourne, wedi ennill medal aur i Brydain yn y Gemau Paralympaidd.

Enillodd y dyn o Dredegar fedal aur yn y Velodrome yn y ras 1.3 cilomedr unigol.

Wrth ennill fe wnaeth gofnodi record byd o 3:53.881 gyda Li Zhang Yu o China yn ail.

Colbourne wnaeth sicrhau medal gyntaf Prydain yn y Gemau Paralympaidd ddydd Iau.

Enillodd fedal arian yn y ras C1-2-3 yn erbyn y cloc.

RHWYFO:

Mae'r Gymraes Samantha Scowen a Nick Beighton wedi gorffen yn ail yn eu rhagras ar gyfer y sgwl dwbl. Fe fyddan nhw nawr yn cystadlu yn y rownd ail gyfle ddydd Sadwrb er mwyn sicrhau lle yn rownd derfynol.

NOFIO:

Dyma yw Gemau cyntaf Morgyn Peters wrth iddo gystadlu yn y 100m dull cefn. Gorffennodd yn bedwerydd yn y rhagras 100m dull cefn S9 mewn amser o 1 munud 05.12 eiliad. Mae o wedi sicrhau ei le yn y rownd derfynol brynhawn Gwener. Michael Auprince o Awstralia enillodd y rhagras mewn amser o 1 munud 3.86eiliad.

ATHLETAU:

Mae pedwar o athletwyr yn cymryd rhan ddydd Gwener. Dyma yw Gemau cyntaf Aled Sion Davies a Rhys Jones.

Llwyddodd Davies i ennill Medal Efydd yn rownd taflu pwysau F42. Daeth ei dafliad gorau yn ei chweched a'r ymgais olaf. Gyda'i chweched ymgais gyda thafliad o 13.78 metr, cyfanswm o 961 pwynt.

Cafodd Jones fedydd tân yn y ras 200m T37 gan orffen yn bumed yn y rhagras. Er hynny, roedd wedi cofnodi ei amser gorau ond methu cyrraedd y rownd derfynol. "Roedd yn anhygoel," meddai wedi'r ras. "Roeddwn yn gwybod ei fod yn drac sydyn, ond mae curo fy amser gorau yn wych. Roeddwn yn gobeithio am unrhyw beth o dan 25 eiliad ac i mi mae fel ennill Medal Aur. Mae'n brofiad bod yma a fydd o werth i mi yn Rio yn 2016."

Ar y trac hefyd y bydd Jordan Howe yn cystadlu yn y rownd gyntaf y 100m T35.

Mae Nathan Stephens wedi penderfynu peidio cystadlu yn rownd derfynol talfu'r ddisgen F57 a oedd i fod ddydd Gwener a hynny er mwyn canolbwyntio ar daflu'r waywffon yr wythnos nesaf.

SAETHYDDIAETH:

Fe fydd Pippa Britton yn parhau i gystadlu yn y rownd cymhwyso cyfansawdd agored. Methodd a gorffen yn y pedwar ucha' ddydd Iau i sicrhau lle yn y chwarteri ddydd Sul.

PÊL-DROED:

Bydd dynion Prydain yn herio Sbaen yn eu gêm ragbrofol gyntaf. Yn y tîm y mae Darren Harris a Keryn Seal.

PÊL-FOLI EISTEDD:

Bydd tîm dynion Prydain yn cystadlu yn y rhagbrofion yn erbyn Yr Aifft. Mae'r tîm yn cynnwys dau o Gymru, James Roberts a Sam Scott. Colli wnaeth y tîm ddydd Iau yn erbyn Rwsia.

O ran y merched, Samantha Bowen, Amy Brierly a Jessica O'Brian, collodd y tîm yn erbyn Yr Wcrain o 3-0.

TENIS BWRDD:

Bydd pump o Gymru yn cystadlu mewn gwahanol gystadlaethau Tenis Bwrdd sef Rob Davies; Paul Davies; Sara Head; Scott Robertson a Paul Karabardak.

PÊL-FASGED CADAIR OLWYN:

Gêm ragbrawf y merched rhwng Prydain ac Awstralia. Yn nhîm Prydain mae'r Gymraes Clare Strange. Colli wnaeth y tîm ddydd Iau yn erbyn Yr Iseldiroedd.

Hefyd gan y BBC