Pryder am ofal gan awdurdodau wrth i gartrefi gael gwared ar welyau
- Cyhoeddwyd
Mae Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud eu bod yn poeni am fod llai o welyau ar gael mewn cartrefi gofal sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau.
Ar Ddiwrnod Gofal mae gwaith ymchwil ar gyfer rhaglen Post Cyntaf BBC Cymru yn dangos bod un o bob pum gwely wedi diflannu mewn cyfnod o dros bum mlynedd.
Gofynnodd BBC Cymru i bob un o'r 22 awdurdod am ystadegau nifer y gwelyau ar gael bob blwyddyn ers 2007.
Yn ystod y cyfnod mae dros 600 o welyau yn llai yn yr 20 o'r awdurdodau ymatebodd.
Mewn rhai siroedd Cymru, gan gynnwys Powys a Thorfaen, dydi'r cyngor lleol ddim yn rhedeg cartrefi preswyl.
Ar Ynys Môn mae ymgynghori eisoes ar droed ynglŷn â'r posibilrwydd o gau'r holl gartrefi sydd yng ngofal yr awdurdod yno.
Gofal cymunedol
Ym Mlaenau Gwent y collwyd y nifer fwya' o welyau - 132 - gyda Wrecsam, Y Fflint a Chasnewydd yn dweud nad oedd newid yn nifer y gwelyau yno.
Gyda phwysau ariannol ar gynghorau ac adeiladau cartrefi gofal yn dyddio, mae'r awdurdodau yn ei chael hi'n anodd cynnal a chadw eu cartrefi preswyl.
Mae'r awdurdodau yn mynnu eu bod nhw'n buddsoddi mwy mewn gofal yn y gymuned ond mae Swyddfa'r Comisiynydd hefyd yn bryderus am ddiffyg canllawiau clir pan mae cartrefi yn cael eu trosglwyddo o'r cyngor i'r sector preifat.
Dywedodd y swyddfa eu bod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau ond maen nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi derbyn canllawiau digonol.
Wrth ddarparu'r ystadegau roedd y cynghorau yn pwysleisio eu bod yn symud tuag at ddarparu gofal yn y gymuned mewn fflatiau.
Dywedodd Mark Drakeford, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad, fod cartrefi gofal yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth ar gael o ran gofal drwy Gymru.
Cyd-destun ehangach
Roedd yn deall pryderon Swyddfa'r Comisiynydd, meddai, a bod angen cartrefi preswyl o hyd ond bod opsiynau eraill megis cartrefi preifat ar gael.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod angen ystyried yr ystadegau yng nghyd-destun ehangach y sector gofal cyfan, sy'n cynnwys gofal yn y cartref.
"Mae'r newid yn fach iawn wrth ystyried bod dros 23,000 o lefydd gofal ar gael yng Nghymru.
"Ac mae'r newid o ran gwasanaethau yn adlewyrchu'r newid sy'n cael ei wneud gan bobl hŷn, i aros yn eu cartrefi cyn hired â phosib ac mae gan y llywodraeth bolisi i gefnogi hyn.
"Mae nifer yr asiantaethau gofal yn y cartref wedi codi o 348 i 407 dros yr un cyfnod."
Dywedodd fod gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn ceisio cefnogi pobl yn y ffordd fwya' effeithiol ac economaidd bosib ac i rai awdurdodau roedd hynny'n golygu cau cartrefi.
"Mae tua 85% o ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru yn y sector annibynnol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012