Gostwng nifer cynghorwyr

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys MônFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 11 ward newydd yn cael eu creu

Daeth cadarnhad bod y cynlluniau i ostwng nifer y cynghorwyr ar Ynys Môn o 40 i 30 wedi eu derbyn gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant.

Bydd 11 ward newydd yn cael eu creu wrth i'r ffiniau newid.

Dywedodd Arweinydd Môn, y Cynghorydd Bryan Owen: "Bydd y cynigion yma'n cynrychioli newidiadau daearyddol a diwylliannol sylweddol i etholwyr Ynys Môn.

"Rydym yn derbyn penderfyniad y Gweinidog, fodd bynnag, ac yn symud ymlaen.

"Bydd yr Awdurdod nawr yn canolbwyntio ar hysbysu etholwyr Môn o'r newidiadau a'u goblygiadau fel rhan o'n ymdrechion ehangach i wella democratiaeth leol."

Bydd wyth o'r 11 ward newydd yn cael eu cynrychioli gan dri chynghorwr sir a'r tair arall yn cael eu cynrychioli gan ddau gynghorwr sir.

Penderfynodd Cyngor Sir Ynys Môn drwy fwyafrif i dderbyn cynigion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar Fehefin 27.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol