Ffrae am ddarlledu hysbyseb heddwch ar S4C
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn honni bod cwmni sy'n penderfynu pa hysbysebion sy'n cael eu darlledu ar S4C wedi gwrthod caniatâd i ddarlledu hysbyseb dros heddwch.
Roedd Cymdeithas y Cymod wedi paratoi hysbyseb i'w darlledu ar y sianel am eu bod yn credu bod cymaint o hysbysebion recriwtio i'r lluoedd arfog ar S4C.
Ond mae cwmni Clearcast wedi dweud nad oes penderfyniad terfynol ynglŷn â'r mater a'u bod yn "fwy na hapus" i drafod y mater ymhellach â'r mudiad pe baen nhw'n cyflwyno tystiolaeth nad yw'r hysbyseb yn torri un o reolau'r Cod Darlledu Hysbysebion.
'Gwleidyddol'
Dywedodd Guto Prys ap Gwynfor, Llywydd Cymdeithas y Cymod, fod yr anghydfod yn codi cwestiynau sylfaenol am drefn penderfynu pa hysbysebion sy'n dderbyniol i'w darlledu yng Nghymru.
Roedd yr hysbyseb 30-eiliad yn tynnu sylw at gost rhyfel yn nhermau arian a bywydau.
Mae'r gymdeithas yn honni bod Clearcast wedi dyfarnu bod yr hysbyseb yn trafod 'pwnc dadleuol cyhoeddus', ac wedi ei gwahardd o dan reolau darlledu.
Dywedodd Mererid Hopwood, aelod o bwyllgor gwaith y mudiad: "Os yw heddwch yn fater o 'bwnc dadleuol cyhoeddus,' rhaid bod rhyfel yn perthyn i'r un categori.
"Ac eto mae'r lluoedd arfog wedi cael rhwydd hynt i hysbysebu'n gyson ar S4C."
Mae'r mudiad wedi galw am sefydlu corff annibynnol yng Nghymru i reoleiddio hysbysebu ar y cyfryngau.
'Ystyr eang'
Dywedodd llefarydd ar ran Clearcast: "Mae Rheol 7 y Cod Darlledu Hysbysebu yn dweud na all hysbysebwyr "gwleidyddol" ddarlledu hysbyseb ar y teledu.
"Mae'r gan y term 'gwleidyddol' ystyr eang ac nid yw'n ymwneud â natur yr achos sydd am hysbysebu.
"Yn dilyn trafodaethau gyda Cymdeithas y Cymod roedd hi'n ymddangos fod nifer o'u gweithgareddau fel lobio'r llywodraeth yn torri'r rheol hon."
Ychwanegodd y llefarydd fod pob hawl gan y gymdeithas i gynnig mwy o dystiolaeth i brofi nad ydynt yn torri'r rheol ac fe fyddai Clearcast yn "hapus iawn" i'w hystyried.
"Am nad yw rheol 7 yn effeithio ar hysbysebu ar fideo yn ôl y galw penderfynodd Cymdeithas y Cyfamod darlledu eu hysbyseb ar y llwyfan hwn yn hytrach nag ar S4C unionlin."
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Clearcast yw'r corff sy'n gweithredu ar draws y diwydiant darlledu er mwyn sicrhau bod hysbysebion yn cydymffurfio â'r rheolau perthnasol.
"Yn yr achos yma nid yw Clearcast wedi clirio'r hysbyseb gan Gymdeithas y Cymod ar gyfer ei darlledu ar y teledu.
"Mae S4C wedi dangos hysbyseb ar ran y mudiad ar ei gwefan gan fod hynny'n bosib o dan y rheolau ar gyfer hysbysebu ar-lein."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2012
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012