£2m o fuddsoddi yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Trosglwyddwyd asesiadau meddygol Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i ysbytai cyfagos

Bydd dros £2m yn cael ei fuddsoddi yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot er mwyn datblygu neu ehangu gwasanaethau ar y safle.

Nid oes gwasanaethau brys yn yr ysbyty oherwydd prinder meddygon ac mae'n rhaid i gleifion deithio i Abertawe neu Ben-y-bont ar Ogwr.

Ond dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod gan yr ysbyty rôl bwysig yng nghynlluniau'r dyfodol.

Ymhlith y newidiadau mae uned IVF arbenigol ac ehangu'r uned wroleg.

Dywedodd Paul Stauber, cyfarwyddwr cynllunio'r bwrdd iechyd: "Mae'r buddsoddiad mewn adrannau newydd neu fwy yn yr ysbyty yn dangos ein hymroddiad i'w ddyfodol.

"Rydym am ehangu'r rôl allweddol yr ysbyty wrth ddarparu gofal iechyd ochr yn ochr â'n hysbytai eraill.

"Bydd y gwasanaethau newydd yn Ysbyty Castell-nedd port Talbot yn trin cleifion ar draws ardal y bwrdd ac mewn rhai achosion y tu hwnt i hynny hyd yn oed."

Trafferthion recriwitio

Fis diwethaf daeth holl dderbyniadau 999 i'r ysbyty i ben ac fe drosglwyddwyd gwelyau o un ward a'r uned asesu feddygol i ysbytai cyfagos.

Roedd y newidiadau, sydd bellach wedi eu cwblhau, oherwydd trafferthion recriwtio meddygon.

Ond mae'r uned fân anafiadau ar agor am 24 awr i bob claf nid dim ond y rhai sydd o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r cyllid newydd yn golygu uned IVF, un o ddim ond dwy ganolfan yn ne Cymru sy'n darparu triniaeth ffrwythloni - mae'r llall yng Nghaedydd - ac mae disgwyl iddi agor yn gynnar yn 2013.

Bydd yr uned wrwoleg yn cael ei hehangu'n sylweddol ac fe fydd llawdriniaeth y fron yn darparu gwasanaethau i nifer o gleifion o Abertawe.

Yn ogystal bydd canolfan ragoriaeth yn y gwasanaeth orthopedig ar gyfer llawdriniaeth cymalau ysgwydd, troed a ffêr, ac fe fydd yr uned yn delio gyda dros 2,000 o lawdriniaethau bob blwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol