Rhybudd y gallai bywydau gael eu colli oherwydd gwendidau'r gwasanaeth ambiwlans
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd y bydd pobl yn marw oherwydd diffyg y gwasanaeth ambiwlans mewn rhai ardaloedd o Gymru.
Mae gan y cyn-barafeddyg Trefor Lloyd Hughes dros 34 mlynedd o brofiad gyda'r gwasanaeth ambiwlans cyn ymddeol, ac mae'n gynghorydd ar Gyngor Sir Ynys Môn - un o'r ardaloedd gwaethaf yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae'r ystadegau diweddara ar gyfer mis Awst yn dangos mai dim ond 64.2% o ambiwlansys a wnaeth ymateb i alwadau brys o fewn 8 munud.
Mae hyn yn is na tharged Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer Cymru gyfan i'r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd achosion categori A - y rhai sydd angen y cymorth mwyaf ar frys.
Dim ond 52% o ambiwlansys ar Ynys Môn ymatebodd i alwadau categori A o fewn y targed.
Y targed ar gyfer pob sir yw 60%.
Roedd saith sir wedi methu cyrraedd y nod hwnnw ym mis Awst.
Mae'r ffigwr ar Ynys Môn wedi bod yn gyson o dan y nod cenedlaethol dros y chwe mis diwethaf.
'Wedi dychryn'
Mae Jean Owen yn trefnu clwb cinio i'r henoed yn Aberffraw ar yr ynys, a'r wythnos ddiwethaf fe gafodd reswm i ffonio 999 gan fod un aelod wedi disgyn a thorri ei ffêr.
"Mi oedden ni'n disgwyl am ......dwi'n siŵr fod o dros 20 munud," meddai.
"Roedd y ledi yma'n gorwedd ar ei hyd ar lawr, a'r unig beth oedden ni'n medru neud oedd ei chadw hi'n gynnes achos roedd hi wedi dychryn ac yn crynu.
"Mi fasa fo wedi medru bod yn rhywbeth mwy.
"Doedden ni ddim yn gwybod os oedd yna 'internal bleeding' neu rywbeth fel 'na.
"Mae o yn boen achos mae'n chwarae hefo bywyd rhywun,
"Os ydi o'n drawiad ac ambiwlans yn cymryd 20 munud fe fydd y sawl sydd ar lawr wedi cicio'r bwced."
'Difrifol iawn'
Mae Trefor Lloyd Hughes wedi ymddeol ers naw mis, ond mae'n sicr ei farn beth yw achos y broblem.
"Dwi ddim yn meddwl bod digon o barafeddygon yn gweithio, a phan mae yna shifftiau sydd angen eu llenwi, dydyn nhw ddim yn eu llenwi nhw," meddai
"Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn rŵan - mae pobl yn gorfod disgwyl.
"Dwi'n pitïo'r bobl yn yr ystafell reoli hefyd - maen nhw dan bwysau.
"Dydi'r gwasanaeth ddim yn cael ei ariannu'n ddigonol gan y llywodraeth."
Pan ofynnwyd i Mr Hughes os oedd yn credu y byddai bywydau'n cael eu colli os na fydd y sefyllfa'n gwella atebodd:
"Yn bendant. Fedrwch chi ddim cario 'mlaen fel y mae o."
Cymysgedd
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'n anodd iawn darogan ble y bydd angen gofal brys mewn ardaloedd gwledig.
Felly maen nhw'n dweud y bydd yn anodd iawn darogan ble mae angen ambiwlans.
Ond o'r saith sir sydd wedi methu'r nod mae yna amrywiaeth o ardaloedd gwledig a threfol - o Dorfaen i Geredigion, Rhondda Cynon Taf i Bowys.
Wrecsam sy'n perfformio orau yng Nghymru.
Oherwydd y cymysgedd, does dim esboniad pendant am y methiant mewn rhai ardaloedd, ac felly dydi hi ddim yn broblem hawdd i'w ddatrys i'r rhai sy'n chwilio am atebion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012