Amgylchedd: Penodi prif weithredwr

  • Cyhoeddwyd
Glandyfi gan Jean NapierFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfrifoldebau'r tri chorff yn disgyn ar ysgwyddau'r un corff newydd

Mae prif weithredwr wedi ei benodi ar gyfer corff adnoddau naturiol newydd Cymru.

Bydd tri chorff amgylcheddol Cymru yn uno ym mis Ebrill 2013, a'r Dr Emyr Roberts fydd prif weithredwr y corff. Bydd y penodiad yn dechrau ar 1 Tachwedd.

Ef yw Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn ffurfio un asiantaeth amgylcheddol.

Yr amcangyfrif yw y gallai newid o dri chorff i un dros gyfnod o 10 mlynedd wneud arbedion o hyd at £158 miliwn.

'Cyfoeth o brofiad'

Ar ôl gyrfa gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ymunodd Emyr Roberts â'r Swyddfa Gymreig ym 1991. Cafodd ei benodi i'r Uwch Wasanaeth Sifil ym 1997 ac ers hynny mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi yn Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Athro Peter Matthews, cadeirydd corff newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru: "Roedd y panel cyfweld yn credu bod yr ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon o safon uchel ac rwy'n falch o gyhoeddi penodiad Emyr.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Emyr Roberts yw Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd

"Mae'n cynnig cyfoeth o brofiad a sgiliau i'r swydd bwysig hon. Mae misoedd cyffrous o'n blaenau wrth i ni sefydlu'r corff newydd a'i lansio ar 1 Ebrill 2013."

Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd: "Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Emyr a Peter wrth iddynt fwrw ymlaen â'n cynlluniau cyffrous i sefydlu'r un corff hwn i reoli adnoddau naturiol Cymru.

"Mae'r amgylchedd naturiol yn hanfodol i bobl ac economi Cymru ac mae'n hanfodol ei fod yn cael ei reoli mor effeithiol ac effeithlon â phosibl er budd gorau Cymru a'i phobl."

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Emyr: "Mae'n fraint ac yn falchder i mi gael gweithio i'r sefydliad newydd hwn, gan helpu i warchod adnoddau naturiol Cymru.

"Fy mlaenoriaeth fydd i ni sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru'n cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol