Gwasanaeth eglwys arbennig ym Machynlleth
- Cyhoeddwyd
Roedd tua 1,000 o bobol mewn gwasanaeth eglwys arbennig ym Machynlleth ar gyfer April Jones fore Sul, y tu mewn a thu allan Eglwys San Pedr yng nghanol y dref.
Cyn hynny, cafwyd gorymdaith o ystâd Bryn-y-Gog, lle mae teulu'r ferch fach bump oed yn byw, i'r eglwys.
Roedd nifer fawr yn gwisgo rhuban pinc, y symbol o gefnogaeth ar gais teulu April.
Nos Sul, cafwyd cadarnhad y bydd y timau achub mynydd yn rhoi'r gorau i fod yn rhan o'r chwilio amdani.
Yn ôl llefarydd ar eu rhan, mae'r gwaith o chwilio bellach yn gweddu fwy i swyddogion arbenigol yr heddlu.
'Cysur'
Fore Sul, Esgob Bangor, Andrew John, arweiniodd y gwasanaeth.
Dywedodd yr Esgob John: "Bu'n wythnos hir a blinedig i bawb ym Machynlleth.
"Ar adegau fel hyn y mae pobl angen eu ffydd, a throi at Dduw am gymorth.
"Mae'r Eglwys wedi cynnal gwylnos bob nos, a gobeithio bod pobl yn teimlo cariad Duw, ac yn cael rhyw gysur o hynny".
Bwriad y gwasanaeth, meddai, oedd amgylchynu teulu April "gyda chariad a gweddïau".
Fe agorodd y gwasanaeth gyda fersiwn Cymraeg o'r emyn 'Morning Has Broken', 'Gwawriodd yr heulwen fel y wawr gyntaf'.
Dywedodd y Parchedig Kathleen Rogers fod gobeithion pobol wedi symud o ddod o hyd i April Jones yn fyw "i'r sicrwydd ei bod ym mreichiau Iesu Grist".
Nid oedd rhieni April, Coral a Paul, yn y gwasanaeeth ond fe gyflwynwyd cannwyll a llyfr cydymdeimlad gan ddau o blant Ysgol Gynradd Machynlleth lle'r oedd April yn ddisgybl.
Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gyhuddo Mark Bridger, 46 oed, o lofruddio April.
Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o'i chipio yn ogystal â cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe fydd yn ymddangos ger bron ynadon Aberystwyth ddydd Llun.
Cafodd y ferch bum mlwydd oed ei chipio ger ei chartref ar ystâd Bryn y Gog ym Machynlleth nos Lun.
Chweched diwrnod
Daeth y cyhuddiadau ar chweched diwrnod y chwilio amdani, a dywedodd yr heddlu eu bod yn dal yn benderfynol o ddod o hyd i April.
Yn y cyfamser, cafodd cronfa gyhoeddus ei sefydlu ar gyfer teulu a chyfeillion April er mwyn i bobl ar draws y DU ddangos eu cefnogaeth.
Dywedodd Cyngor Tref Machynlleth eu bod wedi sefydlu'r gronfa ar ôl derbyn galwadau o bell ac agos gan bobl oedd am roi arian i April a'i theulu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio llinell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012