Mewn Llun: Llusernau yn y canolbarth yn cofio April Jones
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth pobl ym Machynlleth a chymunedau ar draws y canolbarth ryddhau llusernau a balŵns pinc i nodi union amser wythnos wedi i April Jones gael ei gweld diwethaf.

Mair Raftree, mam fedydd April, yn cusanu ei balwn cyn ei ryddhau.

Roedd pobl yn cael eu hannog i oleuo cannwyll neu ryddhau balŵn pinc, hoff liw April.

Cafodd digwyddiadu tebyg eu cynnal yn Aberystwyth a Thywyn. Ond ym Machynlleth yr oedd y gefnogaeth mwya'.

Dyma oedd ymateb Machynlleth wrth i rieni April, Coral a Paul Jones, ryddhau llusern o'u gardd mewn digwyddiad preifat.

Toc wedi 7pm fe ddechreuodd y llusernau gael eu rhyddhau i'r awyr

Yn fuan roedd cannoedd o lusernau a balŵns yn cael eu cludo yn y gwynt

Mae'r chwilio am April yn parhau yn yr ardal. Dydi'r chwilio ddim yn digwydd dros nos erbyn hyn, dim ond yng ngolau dydd.