Toriadau iechyd meddwl: 'Pobl yn lladd eu hunain'
- Cyhoeddwyd
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Rhyngwladol y Byd, mae sylfaenydd ymgyrch i wella'r ddarpariaeth i gleifion yn rhybuddio bod unigolion bregus yn lladd eu hunain oherwydd effaith toriadau mewn gwariant cyhoeddus ar wasanaethau.
Yn ôl Kelly Boylin, o ymgyrch Kim's Voice yn Sir y Fflint, mae cyflyrau pobl yn gwaethygu tra'u bod yn aros am gefnogaeth.
"Rwy'n derbyn bod hi'n anodd i staff a'r llywodraeth orfod wneud y toriadau yma," meddai.
"Ond mae'n cael effaith niweidiol ar fywydau ac mae pobl yn lladd eu hunain o ganlyniad."
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod ymyrraeth gynnar yn allweddol a'u bod wedi cymryd camau i wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl.
Elusen
Mae Kelly yn 21 - yr un oedran a'i chwaer fawr Kim pan laddodd ei hun.
Digwyddiad fyddai wedi llorio unrhyw un - heb son am chwaer fach fregus oedd â'i phroblemau iechyd meddwl ei hun.
"Mae colli rhywun fel 'na …mae'n gwneud i chi deimlo eich bod eisiau bod efo nhw," meddai.
"Dyna yn bendant wnaeth achosi i mi drio lladd fy hun y tro dwytha'."
Roedd hynny ym mis Mai - union bedair blynedd ers marwolaeth ei chwaer - tua'r un adeg ag y sefydlodd Kim's Voice.
Mae'r ymgyrch yn pwyso am well gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol - ond mae diddordeb arbennig yn y ffordd y mae pobl ifanc yn cael eu trin.
Un pryder ydi bod gormod o fwlch rhwng y gefnogaeth i gleifion dan 18 oed - a'r trefniadau wedi iddyn nhw ddod i oed.
"Mae angen gwasanaeth sy'n cydnabod nad ydi pobl ifanc yn oedolion cyflawn.
"Dydyn nhw ddim wedi datblygu yn feddyliol …. dydyn ddim wedi cael digon o brofiadau.
"Rydan ni hefyd eisiau cychwyn gwasanaeth ar ôl oriau swyddfa efo gweithwyr sydd wedi eu hyfforddi i ddelio ag achosion iechyd meddwl - nid gweithwyr cymdeithasol cyffredinol."
Delio gyda'r salwch
Mi siaradodd un o gefnogwyr yr ymgyrch â BBC Cymru ar yr amod i ni beidio datgelu ei henw.
Mi dorrodd ei hiechyd meddwl pan oedd yn 16 oed.
"Dwi'n gweithio efo'r cyhoedd a dwi ddim yn gwbod sut fysa pobl yn ymateb tasa nhw'n gwbod 'mod i wedi ca'l y ffasiwn salwch am gyfnod mor hir," meddai.
Mae hi'n cofio "sioc a braw" ei mam wrth egluro iddi ei bod yn gweld drychiolaethau a lledrithiau yn y dyddiau cyn iddi gael ei danfon i'r ysbyty.
Fel Kelly, mi dreuliodd gyfnodau mewn unedau arbenigol.
Dywed y ddwy eu bod wedi creu strategaethau eu hunain erbyn hyn i ddelio â'u salwch.
Yn achos Kelly, mae cefnogaeth elusennau iechyd meddwl wedi bod yn allweddol bwysig i'w gwellhad.
Honna'r ddwy bod cleifion yn ddiodde' oherwydd iddyn nhw orfod aros "am fisoedd" i weld seiciatrydd.
Roedd Kim Boylin ar restr aros am ddwy flynedd cyn ei marwolaeth.
Ymyrryd yn gynt
Mae'r cyflwr economaidd yn gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth, yn ôl Kelly.
"Waeth faint rydan ni'n deud bod toriadau'n cael effaith niweidiol ar fywydau pobl, does neb yn gwrando.
"Yn barod mae pobl yn dechrau lladd eu hunain o ganlyniad i'r toriadau."
Gwell, ym marn y cyfrannwr anhysbys, fyddai ymyrryd yn gynt, a chynnig mwy o gefnogaeth i unigolion cyn i'r sefyllfa droi'n argyfwng.
Mae'r ddwy yn galw am deilwra cynlluniau gofal yn unol ag amgylchiadau unigol.
"Mae salwch meddwl yn brofiad unigol ofnadwy.
"Hyd yn oed efo'r un diagnosis, dydi'r profiadau a'r symptomau ddim yr un fath."
Arian ychwanegol
Daeth rhannau o Fesur Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru i rym ar ddechrau'r haf.
Mae yna ofyn statudol ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i greu cynlluniau gofal unigol.
Dywedodd llefarydd bod ymyrraeth gynnar yn allweddol, a bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wella'r sefyllfa.
Mae'r camau yn cynnwys mwy o weithwyr iechyd meddwl mewn llefydd fel meddygfeydd teulu i gryfhau'r ddarpariaeth.
Hefyd mae £700,000 ychwanegol yn cael ei roi bob blwyddyn i wella gwasanaethau CAMHS - sef gofal sylfaenol yn y gymuned ar gyfer rhai sydd angen cefnogaeth ond heb fod angen triniaeth ysbyty.
Mae'r arian yn golygu bod modd ehangu'r gwasanaeth er mwyn trin pobol ifanc 18 oed - a'u helpu i gydweithio'n agosach efo gwasanaethau oedolion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2012
- Cyhoeddwyd22 Awst 2012
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012