Pryder am iechyd meddwl dioddefwyr

  • Cyhoeddwyd
Menyw gyda'i phen yn ei dwylo
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Shepherd yn dweud bod tua 40% o'r 300,000 o ddioddefwyr trais yn cael problemau iechyd meddwl bob blwyddyn.

Mae arbenigwr iechyd o Brifysgol Caerdydd yn honni bod angen gwneud mwy i gefnogi gofynion iechyd meddwl dioddefwyr trais.

Mae'r Athro Jonathan Shepherd wedi cyd-ysgrifennu arweiniad newydd i arbenigwyr yn y maes sy'n cael ei gyhoeddi gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ddydd Mercher.

Caiff ei bryderon eu cefnogi gan yr elusen Cymorth i Dioddefwyr sy'n dweud bod angen mwy o gydweithio rhwng asiantaethau i adnabod y dioddefwyr sydd angen cymorth.

Dywedodd Yr Athro Shepherd mai pobl sydd wedi eu niweidio neu sydd wedi eu heffeithio gan drais corfforol sy'n agored i ddatblygu problemau iechyd meddwl fel anhwylder straen wedi trawma, pryder, iselder ysbryd a hyd yn oed problemau camddefnyddio sylweddau.

"Rwyf wedi trin pobl sydd wedi eu niweidio gan drais am flynyddoedd lawer ac rwy'n argyhoeddedig bod y problemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'r trais yn fwy difrifol ac yn para'n hirach na'u hanafiadau corfforol," meddai.

Cynnig cymorth

Mae'r Athro Shepherd, yn Athro Llawdriniaeth yr ên a'r wyneb ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd bod tua 40% o'r 300,000 o ddioddefwyr trais sy'n cael eu trin mewn adrannau brys ysbytai Lloegr a Chymru yn flynyddol yn cael problemau iechyd meddwl.

"Rydym yn gobeithio bydd yr arweiniad yn helpu sicrhau bod pobl sy'n dioddef trais yn cael yr help sydd eu hangen arnyn nhw," meddai.

Mae'n cynnwys system fesul cam newydd i ddangos sut y gall adrannau brys, meddygon teulu a'r system cyfiawnder troseddol yn gallu cydweithio i adnabod pobl sy'n dangos arwyddion eu bod yn dioddef problemau iechyd meddwl a cheisio eu helpu.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymorth i Ddioddefwyr, Javed Khan, fod gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu dioddefwyr i ddygymod ag effeithiau emosiynol a seicolegol troseddu am bron i 40 mlynedd.

Ychwanegodd y byddai mwy o gydweithio rhwng asiantaethau ac unigolion yn sicrhau y byddai mwy o ddioddefwyr gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu hadnabod.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol