Galwad o'r newydd am garchar i'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Prison cell door
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinwyr rhai o gynghorau'r gogledd y byddai carchar newydd o fudd economaidd i'r ardal

Mae arweinwyr cynghorau yng ngogledd Cymru wedi cwrdd â gweinidog o lywodraeth y DU i ddadlau eu hachos dros gael carchar newydd i'r rhanbarth.

Fe ddywedon nhw wrth y Gweinidog Carchardai, Jeremy Wright, bod yr ardal "yn agored" i'r syniad o gael carchar yno.

Roedden nhw'n pwysleisio y byddai carchar newydd yn creu swyddi a chyfleoedd adfywio yn y rhanbarth.

Dywedodd Mr Wright wrthyn nhw bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn trafod gyda'r Trysorlys i gael arian ar gyfer carchardai newydd.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan Ysgrifennydd Cymru, David Jones, a arweiniodd ddirprwyaeth i gwrdd gyda'r gweinidog.

Anaddas

Yn flaenorol, bu cynlluniau ar gyfer carchar newydd ger Caernarfon, ond ym Medi 2009, dywedodd y Gweinidog Carchardai ar y pryd, Maria Eagle, bod problemau gyda'r safle ar hen ffatri Ferodo oedd yn golygu nad oedd yn addas ar gyfer datblygu carchar.

Yna ym Mawrth 2010, cafodd safle hen ffatri Aliwminiwm Môn ei gynnig gan arweinwyr cyngor fel un o chwe safle posib ar gyfer carchar i'r gogledd.

Roedd y ddirprwyaeth aeth i weld y gweinidog yn cynnwys arweinwyr cynghorau Sir Ddinbych, Gwynedd a Wrecsam.

Dywedodd Hugh Evans, arweinydd Sir Ddinbych, y byddai carchar yng ngogledd Cymru yn lleihau'r gost o wasanaethau cyhoeddus ac i deuluoedd, yn cefnogi troseddwyr ac yn gwella'r raddfa o aildroseddu ymysg troseddwyr.

'Dysgu gwersi'

Pwysleisiodd Dyfed Edwards, arweinydd Gwynedd, mai gogledd Cymru oedd yr unig rhanbarth yn y DU oedd heb garchar.

"Mae llawer o garcharorion o ogledd Cymru yn cael eu carcharu yn rhy bell o'u teuluoedd mewn awyrgylch lle nad yw'r diwylliant Cymreig ar gael iddyn nhw," meddai.

"Mae hynny'n cynyddu'r risg o ail-droseddu wrth adael ac o niweidio'u hunain yn y carchar yn enwedig i bobl ifanc."

Roedd gwersi wedi cael eu dysgu o'r "profiad chwerw" o gynlluniau am garchar ger Caernarfon, ychwanegodd.

"Fe ddywedon ni wrth y gweinidog y bydden ni'n hyblyg. Fe fyddwn yn cwrdd â meini prawf y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer safleoedd, ac fe fyddwn yn rhoi lle i garcharorion o Loegr mewn carchar yng ngogledd Cymru er mwyn gwneud hynny."

Dywedodd Mr Edwards hefyd bod y cynghorau wedi dangos i'r Gweinidog bod awdurdodau lleol, yr heddlu a'r gwasanaethau prawf wedi datblygu partneriaeth gref.

"Rydym am gael carchar, ac hefyd am ddatblygu cynlluniau dyfeisgar fydd yn gweld mwy o droseddwyr yn treulio'u dedfrydau yn y gymuned.

"Bydd delio gyda throseddwyr risg isel yn lleol yn lleihau'r gost i'r pwrs cyhoeddus, ac yn cadw'u cysylltiad gyda chefnogaeth broffesiynnol a theuluol."