Llifogydd yn achosi problemau teithio

  • Cyhoeddwyd
Cafodd yr arwydd 10m mewn parc manwerthu ei chwythu i ffwrdd gan wyntoedd cryfion
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr arwydd 10m mewn parc manwerthu ei chwythu i ffwrdd gan wyntoedd cryfion

Mae tywydd wedi achosi trafferthion ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd wrth i'r Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd rybuddio am fwy o law trwm.

Cafodd pump o geir eu difrodi a deellir bod un person wedi cael anaf ar ôl i arwydd 10m mewn parc manwerthu gael ei chwythu i ffwrdd gan wyntoedd cryfion.

Digwyddodd hyn y tu allan i storfa B&M a agorodd yn ddiweddar ar barc Dewis Sant oddi ar Ffordd Caernarfon, Bangor.

Cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd dri rhybudd llifogydd, un yn Ninbych-y-pysgod yn Sir Benfro, un ar Afon Rhyd Hir ger Pwllheli, Gwynedd, a'r llall ar Afon Dyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Chaer.

Mae modd gweld y manylion i gyd ar wefan yr asiantaeth, dolen allanol ac roedd rhybudd oren mewn grym yng Ngwynedd, Conwy a Sir Ddinbych oedd yn golygu y dylai'r cyhoedd fod yn barod am lifogydd.

Dywedodd Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn cynghori'r cyhoedd i wrando ar rybuddion ar y cyfryngau ... pan mae cymaint o ddŵr ar wyneb y ffordd, mae'n well peidio teithio os nad yw hynny'n gwbl angenrheidiol.

Amharu

"Os gwelwch chi lifogydd o'ch blaen, peidiwch â cheisio gyrru drwyddyn nhw gan y gallai fod yn llawer dyfnach nag y mae'n ymddangos."

Eisoes mae'r glaw wedi amharu ar y gwasanaeth trenau. Mae bysiau yn cludo teithwyr rhwng Caergybi a Llandudno gan fod glaw ar y lein rhwng Caergybi a Bangor.

Disgrifiad o’r llun,

Bu rhannau o Holt, ger Wrecsam, o dan ddŵr

Does dim disgwyl i'r gwasanaethau ailddechrau tan o leia' ddydd Mawrth, yn ôl cwmni Arriva Cymru.

Dywedodd Trenau Arriva y byddai trafferthion ar y lein yn Nyffryn Conwy ac yn y gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Caer.

Fe gaeodd Ysgol Gyfun Llangefni yn gynnar ddydd Llun oherwydd tywydd garw ar Ynys Môn. Roedd yr ysgol yn dal i ystyried a fydden nhw'n agor ddydd Mawrth ai peidio.

Ailagor

Mae'r A5 wedi cau'n rhannol ger y B4401 yn ymyl Corwen ac mae angen gofal yno.

Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fod pryderon am gau'r A55 yr wythnos diwetha'.

Dywedodd Mary Burrows fod y sefyllfa wedi effeithio ar staff yn cyrraedd a gadael eu gwaith ac wedi effeithio ar ambiwlansys.

Dylid codi'r mater gyda'r Gweinidog Iechyd, meddai.

Cafodd yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog ei hailagor ac mae Cyngor Gwynedd wedi dweud bod y B4366 rhwng Bethel a Chaernarfon ar agor er gwaethaf adroddiadau blaenorol.

Dywedodd yr awdurdodau fod angen gyrru'n ofalus ar hyd yr A4086 yn Nant Peris ac ar hyd yr A5 ger Ffordd Maesmawr yn Llangollen.

Oedi

Roedd 'na oedi i wasanaethau ym Mro Morgannwg am gyfnod oherwydd llifogydd oedd yn effeithio ar drenau i gyfeiriad Pen-y-bont gan fwyaf.

Ond roedd y sefyllfa wedi gwella erbyn 2:30pm.

Canslodd First Great Western drenau rhwng Llundain a De Cymru oherwydd llifogydd, gan gynnwys y gwasanaethau am 8:15am, 9:15, 10:15 a 11:15. Roedd 'na oedi i wasanaethau yn y prynhawn hefyd.

Yng Nghaerdydd doedd 20 o wasanaethau bysus ddim yn brydlon oherwydd y tywydd a phroblemau traffig.

Roedd yr A48 ar gau i'r ddau gyfeiriad yn ardal Pentyla/Ffordd Baglan.

Yn y gorllewin mae diffoddwyr wedi bod yn pwmpio dŵr oherwydd llifogydd mewn tai ym mhentre' Merrion ger Castell Martin yn Sir Benfro.

Rhif ffôn Llinell Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd yw 0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr).

Rhif ffôn gwasanaeth cynghori Cyngor Gwynedd, Galw Gwynedd, yw 01766 771000.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol