Ffermydd wynt: Cyngor Powys yn gwrthod dau gais

  • Cyhoeddwyd
Fferm wynt (cyffredinol)
Disgrifiad o’r llun,

Hwn yw'r ail dro mewn dwy flynedd i gynlluniau ar gyfer Pentre Tymp gael eu gwrthod

Mae cynghorwyr wedi gwrthod cais cynllunio ar gyfer dwy fferm wynt ym Mhowys.

Roedd adroddiad ar gyfer Pwyllgor Rheoleiddio Cyngor Powys wedi argymell y dylai ceisiadau cynllunio i godi 12 tyrbin ar Fynydd-y-Cemaes ger Llanbrynmair a thri thyrbin ym Mhentre Tymp ger Maesyfed gael eu gwrthod.

Hwn yw'r ail dro mewn dwy flynedd i gynlluniau ar gyfer Pentre Tymp gael eu gwrthod ac mae datblygwr y cynllun wedi dweud ei fod yn siomedig.

Dywedodd y cyngor y byddai'r cais ar gyfer y tri thyrbin 340 troedfedd (103 metr) o uchder yn golygu effaith annerbyniol ar dirlun yr ardal.

Pryderon

Roedd hefyd bryderon nad oedd ffordd addas ar gyfer y datblygiad ac roedd pobl leol yn ei wrthwynebu.

Dywedodd REG Windpower, oedd wedi bwriadu codi fferm wynt ym Mhentre Tymp, eu bod wedi gweithio'n galed ers dwy flynedd i geisio ateb pryderon y cyngor sir.

Mae rheolwr datblygu'r cynllun, Owen Saward, wedi dweud: "Ysgrifennodd mwy na 150 o bobl leol at Gyngor Powys o blaid y fferm wynt felly fe fyddan nhw hefyd yn siomedig ...

"Rydym yn derbyn bod tyrbinau yn effeithio ar dirlun ardal am gyfnod byr ond rhaid cael cydbwysedd â'r angen i gynhyrchu trydan adnewyddadwy fel bod modd ceisio gwrthsefyll effeithiau llawer mwy niweidiol newid yr hinsawdd."

Cafodd y cais cynllunio ar gyfer fferm wynt Mynydd-y-Cemaes ei gyflwyno gan Acciona Energy UK a byddai'r tyrbinau wedi bod yn 377 troedfedd (115 metr) o uchder.

Dim digon

Yn ôl adroddiad y cyngor nid oedd digon o wybodaeth "o ran tirlun a'r effaith weledol, sŵn, diogelwch ffordd, bioamrywiaeth, hawliau tramwy cyhoeddus, twristiaeth a chysylltiad â'r grid trydan" i gefnogi'r cais.

Mae'r cyngor wedi gwrthwynebu ceisiadau tebyg yn y gorffennol ac mae hyn wedi arwain at gynnal sawl ymgynghoriad cyhoeddus.

Cafodd nifer o geisiadau am ffermydd gwynt eu gwrthwynebu ym mis Mawrth, un yn ymwneud â chodi dwy fferm wynt ger Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn ac ar dir yn Llanbadarn Fynydd yn Sir Faesyfed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol