Llifogydd: Camerâu i fod o gymorth i wylio adeiladau gwag

  • Cyhoeddwyd
Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhannau o Lanelwy o dan ddŵr o ganlyniad i'r llifogydd fis Tachwedd

Mae camerâu cylch cyfyng wedi cael eu gosod er mwyn cynnig cymorth i'r cyhoedd yn yr ardaloedd wnaeth ddiodde lifogydd yn ddiweddar.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi adleoli pedwar camera i ardaloedd yn Llanelwy a Rhuthun.

Fe fydd y camerâu yn cael eu cysylltu i ystafell reoli sy'n gweithio 24 awr y dydd.

"Mae'r camerâu yn mynd i gynnig sicrwydd pellach i berchnogion tai ac adeiladau gwag," meddai'r Cynghorydd David Smith, aelod o gabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd.

"Maen nhw hefyd yn fodd i atal troseddwyr rhag manteisio ar eiddo perchnogion sydd wedi gorfod gadael."

Dywedodd y Prif Arolygydd Jo Williams o Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn croesawu'r penderfyniad.

"Mae'n bwysig bod y cymunedau sydd wedi dioddef o lifogydd yn gwybod bod yr holl asiantaethau yn yr ardal yn ymwybodol o'r teimladau sydd yna a'n bod yn gwneud popeth posib i atal troseddau.

"Fe fydd y camerâu yn allweddol ar gyfer hyn."

Ychwanegodd y bydd swyddogion yn ymweld â'r ardaloedd yn gyson ac fe fydd 'na gyfarfodydd neu 'meddygfeydd' atal troseddau.

Fe fydd y feddygfa yn Llanelwy ar agor tan ddydd Gwener yng nghaffi Jacob's Ladder rhwng 11am a 4pm ac yn Swyddfa Wimpy Taylor yn Rhuthun rhwng 11am a 4pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol